Dyn wedi marw ar ôl tân ar gaeau chwarae yng Nghaerdydd

marl Image copyright Google

Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod dyn wedi marw ar ôl tân ar gaeau chwarae yng Nghaerdydd.

Cafodd y dyn 40 oed ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad yn ardal Grangetown ddydd Sadwrn ond bu farw'n ddiweddarach.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth gan bobl a welodd y dyn ar gaeau chwarae Marl.

Dywedodd y Prif Arolygydd Karl Eenmaa fod pobl oedd yn bresennol yn y digwyddiad wedi bod yn dystion i "sefyllfa erchyll".

Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.