Hacio TalkTalk: Dyn o Lanelli yn y llys

llys

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o hacio system gyfrifiadurol cwmni TalkTalk er mwyn gofyn am daliad blacmel.

Mae Daniel Kelley, sy'n 19 oed, wedi ei gyhuddo o fynnu 465 Bitcoin - sydd werth tua £216,000 - ar ôl cynnal ymosodiad cyfrifiadurol ar wefan y cwmni ym mis Hydref y llynedd.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o flacmelio cwmnïau eraill yn yr un ffordd.

Fe glywodd Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth fod Mr Kelley wedi cael ei arestio ym mis Tachwedd y llynedd a'i gyhuddo gan dditectifs o Scotland Yard ddydd Llun.

Mae'n wynebu 14 o gyhuddiadau i gyd - wyth o flacmel, pedwar o hacio cyfrifiadurol a dau o dwyll.

Ni chyflwynodd ble yn y llys ddydd Mawrth a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol. Bydd yn ymddangos yn Llys yr Old Bailey ar 10 Hydref.