Darganfod esgyrn dynol hynafol mewn eglwys ar Ynys Môn

Beddrod Sant Credifael

Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i weddillion chwe chorff mewn eglwys ar Ynys Môn.

Cafodd yr esgyrn eu darganfod wrth i waith glanhau ac atgyweirio gael ei gynnal yn eglwys Sant Credifael ym Mhenmynydd.

Mae'r eglwys wedi bod ynghau ers sawl blwyddyn, ond y tu mewn iddi, mae yna feddrod unigryw yn dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif.

Yn ôl archaeolegwyr, mae'r beddrod, gyda cherfluniau gŵr a gwraig yn gorwedd arno, yn amhrisiadwy ac yn enghreifftiau prin o gerfluniau alabaster o'r cyfnod.

Beddrod Goronwy a Myfanwy Tudur ydy o, ac mi fydd yn cael ei symud er mwyn ei lanhau a'i adfer.

Er mwyn symud y cerfluniau i'w glanhau, mae angen cryfhau llawr yr eglwys, ac wrth gloddio i wneud hynny, daeth archaeolegwyr o hyd i olion cyrff gafodd eu claddu yno dros nifer o ganrifoedd.

Image caption Beddrod Goronwy a Myfanwy Tudur yn Eglwys Sant Credifael

Maen nhw wedi dod o hyd i weddillion chwe chorff, ond mae lle i gredu fod yna ragor yn gorwedd o dan y lloriau.

Roedd hi'n arferiad yn y cyfnod i gladdu pobl gyfoethog o dan lawr yr eglwys ond dros y canrifoedd cafodd hen gyrff eu symud er mwyn creu beddau newydd.

Mae Ffrindiau Eglwys Sant Credifael yn awyddus iawn i weld y beddrod unigryw yn cael ei adfer.

Dywedodd Owain Evans, un o gyfeillion yr eglwys: "Y bwriad ydi ein bod ni'n symud y gist sy'n dal Goronwy Tudur a Myfanwy Tudur, ei hatgyweirio hi a'i safio hi i'r dyfodol.

"Mae hi'n hynod o drwm, rhai tunelli, a'r syniad ydy ein bod ni'n ei symud hi ar draws llawr yr eglwys. Ond mae'r llawr wedi ei wneud o goed ac wedi pydru, felly mi fyddwn ni'n cryfhau'r llawr er mwyn symud y gist fesul tamaid."

Image caption Cafodd yr esgyrn eu darganfod wrth i archeolegwyr godi llawer pren yr eglwys

Wrth wneud hynny, daeth archaeolegwyr o hyd i olion nifer o gyrff. Y gred ydi fod rhywrai yn ystod Oes Victoria, pan gafodd yr eglwys ei hadnewyddu, wedi clirio nifer o gyrff oddi yno ac wedi gadael rhai esgyrn ar ôl.

Dywedodd Spencer Smith o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd: "Mae yna o leia' hanner dwsin o gyrff wedi cael eu 'styrbio yn y ganrif pan gafodd y gwaith ei wneud, ac mae yna o leia' hanner dwsin o bobol eraill o dan y llawr hefyd."

Mae'n dweud fod y cerfluniau ar y gist yn rhai anhygoel: "Maen nhw mor bwysig, ac yn edrych yn debyg i rai fyddai brenin neu frenhines yn cael eu claddu ynddyn nhw, y math o beth fyddech chi'n weld yn Llundain, y 'Westminster School' o ran cerfio."

Pan fydd y gist yn cael ei hagor, mae'n bosib y bydd yr arch blwm y tu mewn yn cynnwys gweddillion cyrff Goronwy a Myfanwy Tudur, oedd yn hynafiaid i Harri Tudur.