Caerdydd 0-2 Derby

Caerdydd Derby Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Alex Pearce o Derby a Kenneth Zohore o Gaerdydd yn ymladd am y bêl

Parhau mae tymor gwael Caerdydd wrth i'r tîm golli gartref yn erbyn Derby.

Di-sgôr oedd hi yn yr hanner cyntaf, ac er i Derby gael mwy o'r meddiant, yr Adar Gleision gafodd y cyfleoedd gorau.

Ond 10 munud i fewn i'r ail hanner, llwyddodd Tom Ince i chwalu amddiffyn Caerdydd i sgorio pedwaredd gôl Derby mewn 10 gêm yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Yna, 80 munud i mewn i'r gêm, aeth pethau o ddrwg i waeth i Gaerdydd wrth i Matt Connolly gael ei anfon o'r maes am faglu Nick Blackman, ac fe sgoriodd yr eilydd o gic o'r smotyn.

Roedd hon yn fuddugoliaeth bwysig i Derby. Ychydig oriau cyn dechrau'r gêm, clywodd y tîm fod eu rheolwr, Nick Pearson wedi ei wahardd o'r clwb, gyda Chris Powell yn camu i'r bwlch.

Mae Derby'n codi i'r 20fed safle, tra bo Caerdydd waelod ond un yn y tabl.