Macclesfield 3-0 Wrecsam

wrecsam

Colli fu hanes Wrecsam yn erbyn Macclesfield yn y Cynghrair Cenedlaethol nos Fawrth.

Sgoriodd Danny Whitaker yn yr hanner cyntaf a'r ail, a rhwydodd Paul Lewis i godi'r Silkmen i'r trydydd safle.

Ond fe allai noson Wrecsam fod wedi bod hyd yn oed yn waeth oni bai am ymdrechion y golwg Shwan Jalal i atal rhagor o goliau.

Wedi gem ddi-sgôr yn erbyn Caer dros y penwythnos, mae'r golled yn ychwanegu at y pwysau sydd ar reolwr Wrecsam, Gary Mills.