Casnewydd wedi diswyddo'r rheolwr Warren Feeney

Warren Feeney Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi diswyddo'r rheolwr Warren Feeney.

Dim ond un gêm mae'r clwb wedi ei hennill yn yr Ail Adran y tymor yma, ac maen nhw ar waelod y tabl ar hyn o bryd.

Dywedodd y clwb bod y rheolwr cynorthwyol, Andy Todd, hefyd wedi gadael ei swydd.

Bydd hyfforddwyr y tîm cyntaf, Sean McCarthy a James Bittner yn cymryd rheolaeth dros y clwb am y tro.

Ymunodd Feeney â'r clwb yn 2015 cyn cael ei benodi'n reolwr ym mis Ionawr ar ôl i John Sheridan adael y clwb i ymuno ag Oldham.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb: "Hoffwn ddiolch i Warren am ei wasanaeth ers ymuno a'r clwb 'nol ym mis Hydref ac rydyn ni'n dymuno'n dda iddo yn ei yrfa yn y dyfodol."