Aberfan: E Wyn James yn cofio'r drychineb wedi 50 mlynedd

Pobl yn helpu

50 mlynedd ers i domen lo lithro i lawr mynydd a chladdu tai ac ysgol gynradd yn Aberfan, gan ladd 144 o bobl, mae un oedd yno'n helpu ar y diwrnod yn rhannu ei brofiadau hefo Cymru Fyw.

"O'n i'n 16 oed ar y pryd, yn yr ysgol uwchradd. O'n i wedi mynd i'r ysgol y bore hwnnw ac erbyn i mi gyrraedd yr ysgol, yn syth ar ôl cyrraedd bron, roedd bechgyn fy oedran i ac yn uwch wedi cael ein galw i fynd i Aberfan, bod 'na rywbeth ofnadwy wedi digwydd yno a bod angen cymorth."

Disgybl yn Ysgol Mynwent y Crynwyr yn Edwardsville, y pentref nesaf i lawr i Aberfan oedd yr Athro E Wyn James. Roedd wedi pasio'r pentref y bore hwnnw ar ei ffordd i'r ysgol cyn i'r drychineb ddigwydd.

Erbyn i'r bechgyn ysgol gyrraedd Aberfan roedd y glöwyr profiadol o'r pyllau cyfagos yno'n barod yn palu, a rhai eraill yn llenwi bwcedi gyda'r gwastraff oedd wedi dod i mewn i'r ysgol gynradd.

"Roedd e'n wlyb iawn hefyd," meddai Wyn James. "Dwi ddim yn credu bod pobl yn llawn sylweddoli hynny. Roedd 'na ddŵr wedi crynhoi yn y tip ei hunan.

"Felly roedd y gwastraff glo yn fwdlyd yn barod. Ond wrth ddod lawr, roedd 'na hen gamlas oedd ddim yn cael ei defnyddio, ond roedd dŵr ynddi hi a pibe dŵr ynddi hefyd.

"Fe dorrwyd y rheina, ac felly roedd y gwastraff yn ddyfrllyd iawn. Rwy'n cofio pan oedden ni'n cyrraedd yno fod y mwd yn dal i ryw lifo a symud ar yr hewl o flaen yr ysgol."

Image caption Roedd E Wyn James yn ddisgybl yn Ysgol Mynwent y Crynwyr ac yn un o'r rhai gafodd ei alw i Aberfan i helpu

Gwaith y bechgyn ysgol oedd mynd â'r bwcedi o slwtsh oddi yno, i'r lorïau oedd yn cludo'r mwd i lefydd cyfagos.

Unwaith i Wyn James gyrraedd y safle roedd hi'n amlwg bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd.

Dim ond "sgerbwd allanol" yr ysgol oedd ar ôl a'r tu mewn yn llawn mwd: "Un peth rwy'n cofio yn glir iawn am y diwrnod yw y bydde chwiban yn mynd bob hyn a hyn i alw am dawelwch.

"Wedyn bydde'r peirianne a phawb yn ymdawelu achos o'n nhw eisiau clustfeinio am fod rhywun yn meddwl falle eu bod nhw wedi clywed rhyw sŵn o dan y gwastraff.

"Ac o'ch chi ddim yn gwybod wedyn a oedd yna blentyn yno oedd yn mynd i gael ei achub neu beidio, roedd yr holl beth yn ansicr.

"Beth yn union oedd pen draw y cyfan? Doeddech chi ddim yn gwybod hynny wrth gwrs tan y diwedd."

'Anti Ann' y brifathrawes

Cafodd 116 o blant eu lladd ar y diwrnod hwnnw ym mis Hydref, y diwrnod olaf cyn y gwyliau ysgol, rhai ohonyn nhw yn frodyr a chwiorydd i ffrindiau Wyn James.

Cafodd 28 o oedolion eu lladd hefyd, yn eu plith roedd prifathrawes yr ysgol, Ann Jennings. Roedd 'Anti Ann' yn perthyn drwy briodas i deulu'r academydd.

Dywedodd fod y teulu wedi clywed si ei bod hi wedi dod allan o'r ysgol reit ar y dechrau: "Doedd hynny ddim yn swnio fel petai hi'n ymddwyn fel y bydde rhywun yn disgwyl iddi wneud, achos y peth diwetha' bydde rhywun wedi disgwyl oedd y bydde hi wedi mynd o'r ysgol.

"Ac wedyn roedd y teulu jyst mewn rhyw fath o limbo, yn emosiynol ac ym mhob ffordd arall, am ddeuddydd i bob pwrpas...

"Fel mae'n digwydd hi oedd un o'r rhai olaf i gael ei darganfod yn adfeilion yr ysgol y diwrnod wedyn."

Image caption Bu gwirfoddolwyr a thimau achub yn gweithio'n ddiflino i geisio achub pobl

Cadw siop oedd rhieni Wyn James, ac yn y diwrnodau wedyn roedd yn mynd gyda'i dad yn rhoi bwyd a diod i yrwyr y lorïau oedd yn gollwng y gwastraff o'r ysgol mewn llefydd ar hyd y cwm ac i'r gweithwyr oedd yn gweithio ar y safleoedd hynny.

"Fy atgof i o'r sefyllfa wedyn, ar ôl y galaru cychwynnol, a'r angladde, oedd bod 'na lawer iawn o drafod yn mynd ymlaen ynglŷn â'r ochr wleidyddol, yr holl helynt ynghylch symud y tipie a beth oedd yn cael ei wneud i adfer y pentref a sut oedd arian y gronfa, oedd wedi llifo mewn, shwt oedd hwnna'n cael ei wario," meddai.

Ond doedd yna fawr ddim trafod am emosiynau personol: "Roedd pawb yn ymwybodol o'r emosiynau cignoeth wrth gwrs, ond ychydig iawn o drafod oedd yn digwydd ac ychydig iawn o gymorth.

"Roedd 'na ryw elfen o dawelwch, o fudandod, ar y lefel emosiynol, bersonol."

Emosiwn yn cryfhau

Mae 50 mlynedd wedi mynd heibio ers trychineb Aberfan ac mae Wyn James yn dweud bod y teimladau o ddicter ac anghyfiawnder bod y fath beth wedi gallu digwydd, ac ymateb yr awdurdodau wedyn, wedi cryfhau ar hyd y blynyddoedd.

"Dwi ddim yn awdurdod ar wleidyddiaeth ond roedd cymoedd y de yn pleidleisio mor gryf dros un blaid yn benodol," meddai.

"Dwi ddim eisiau gwneud pwynt gwleidyddol, pleidiol fan hyn fel y cyfryw. Ond r'wy'n teimlo petai yr ardaloedd 'na wedi bod yn seddi ymylol yn wleidyddol, falle bydde'r agweddau wedi bod yn wahanol.

"Roedd yna elfen o gymryd y bobl yn ganiataol."

Image caption Cafodd llawer o'r meirw eu claddu ym mynwent Aberfan

Mae Wyn James a'i wraig, Christine, wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth gan feirdd sy'n ymateb i drychineb Aberfan.

Y bwriad oedd ei chyhoeddi 20 mlynedd yn ôl. Ond dywedodd fod treigl amser wedi gwneud y profiad o olygu'r gwaith yn fwy anodd yn emosiynol.

"Beth sydd yn drawiadol yw cyn lleied o bobl oedd yn rhan o'r holl beth ar y pryd oedd yn fodlon trafod y peth, rhai teuluoedd lle roedd plant wedi eu colli yn gwahardd eu henwi nhw hyd yn oed ar yr aelwyd.

"A dwi yn meddwl am flynyddoedd o'n i nid yn annhebyg mewn un ystyr. Roedd fel petai 'na ryw fath o rewi emosiynol, a hwnna'n fath o amddiffyniad emosiynol.

"Fel mae'r blynyddoedd wedi mynd ymlaen, rwy' wedi mynd yn fwy emosiynol ynghylch yr holl beth. Efalle bod hynny yn rhan o'r broses o dyfu'n hŷn-ma' 'da chi blant eich hunan, ac wyrion bellach- a falle'r elfen o bellter amser hefyd, ac mae hynny i gyd yn golygu fy mod i'n fwy emosiynol nawr, rwy'n credu, nag y bydden ni wedi bod 20 mlynedd yn ôl."