Cyhuddo dyn 20 oed o lofruddio Zoe Morgan a Lee Simmons

Lee Simmons a Zoe Morgan Image copyright Facebook
Image caption Roedd Lee Simmons a Zoe Morgan yn gweithio yn siop Matalan

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn a dynes yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Bydd Andrew Patrick Saunders, 20 o ardal Cas-bach, yn ymddangos yn y llys ddydd Gwener wedi ei gyhuddo o lofruddio Zoe Morgan a Lee Simmons.

Roedd Ms Morgan, 21 o Ystum Taf, a Mr Simmons, 33 o Grangetown, yn gweithio yn siop Matalan ar Heol y Frenhines.

Cafodd cyrff y ddau eu darganfod yn oriau man y bore.

Image copyright Wales News Service
Image caption Andrew Patrick Saunders

Mewn perthynas

Yn ôl ei manylion ar-lein, bu Zoe Morgan yn astudio ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru cyn iddi ddechrau gweithio yn siop Matalan yn y ddinas fis Mehefin.

Roedd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.

Fe oedd Mr Simmons - cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Fitzalan - yn gweithio yn y siop ers iddi agor ym mis Hydref 2014.

Yn ôl ei gyfrif Facebook, roedd mewn perthynas gyda Ms Morgan ers mis Gorffennaf.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Yr heddlu yn ymchwilio yng Nghaerdydd ddydd Mercher wedi i ddau gorff gael eu darganfod

Dywedodd prif weithredwr Matalan eu bod yn rhoi cymorth i'w staff.

"Roedd y ddau gafodd eu lladd yn gweithio yn ein siop yng Nghaerdydd felly yn amlwg rydym yn rhoi ein cefnogaeth lawn i'n cydweithwyr," meddai prif weithredwr Matalan, Jason Hargreaves.

"Rydym yn gofyn eu bod yn cael llonydd i ddelio â hyn yn ystod cyfnod anodd. Dyna'r oll rydyn ni'n gwybod ar hyn o bryd ac rydym yn gweithio'n ddiflino gyda'r heddlu yn eu hymchwiliad.

"Rydym yn cydymdeimlo â theuluoedd y rheiny sydd wedi'u heffeithio."

Image caption Cafodd blodau eu gadael o flaen siop Matalan, lle roedd Zoe Morgan a Lee Simmons yn gweithio
Image copyright Wales News Service
Image copyright Wales News Service