Brian, Gaddafi a fi

Yn ei dydd roedd stesion Afonwen yn lle digon prysur. Yn Afonwen yr oedd lein arfordirol y Cambrian yn cwrdd â lein yr LMS o Fangor ac roedd 'na lawer o fynd a dod rhwng y ddwy wrth i bobol deithio rhwng de a gogledd.

Erbyn 1975 roedd y prysurdeb hwnnw wedi diflannu yn sgil cau lein Bangor ond roedd yr adeiladau'n dal i sefyll ac yn lle delfrydol i Eisteddfodwyr ifanc fel fi wersylla yn ystod prifwyl Cricieth. O'r hyn a gofiaf roedd ystafell aros Afonwen yn gartref i sesiynau digon meddwol gydol yr wythnos.

Gŵr o'r enw Brian Morgan Edwards oedd yn biau'r adeiladau bryd hynny ac roeddwn i wedi anghofio popeth am y gŵr lliwgar hwnnw nes i'w enw ymddangos yn y newyddion yr wythnos hon.

Dyn busnes oedd Brian ac roedd yn un o griw o genedlaetholwyr asgell-dde wnaeth sefydlu grŵp Hydro, oedd wedi ei enwi ar ôl gwesty yn Llandudno, i wrthwynebu ymdrechion eraill, Dafydd Ellis Thomas yn bennaf, i symud Plaid Cymru i'r chwith.

Yn ôl yn 1975, y flwyddyn y gwnes i fanteisio ar ei letygarwch, Brian, ynghyd â Glyn Owen, cynghorydd lliwgar o Aberdâr, oedd yn bennaf gyfrifol am godi arian i'r blaid. Roedd honno'n dasg ddigon diddiolch wrth i Blaid Cymru faglu o un argyfwng ariannol i'r nesaf.

Doeddwn i ddim wedi fy synnu felly pan ymddangosodd stori rai blynyddoedd yn ôl bod Brian ac eraill wedi teithio i Libya yn ôl yn y saithdegau yn y gobaith o droi ceiniog i'r blaid. Yr unig sioc oedd bod Brian, oedd yn gymeriad digon cegog, wedi cadw'n dawel am y peth.

Fel mae'n digwydd, rwy'n amau na dderbyniodd y blaid rodd o goffrau Gaddafi. Go brin y byddai hi wedi parhau i oddef ei thwll o bencadlys pe bai 'na arian ar gael i'w huwchraddio! Mae fy nghyfaill Rhys Evans sy'n gwybod mwy am hanes Plaid Cymru na neb ar y ddaear yma ar ôl ysgrifennu bywgraffiad Gwynfor Evans o'r un farn a fi.

Ar y llaw arall, gwn am o leiaf un aelod o Blaid Cymru sy'n honni bod Brian wedi dweud wrth yntau yn y 1980au bod rhodd wedi ei derbyn. Does dim modd gwybod a oedd Brian wedi harddu'r stori erbyn hynny - roedd e'n un am glecs wedi'r cyfan!

Ar ddiwedd y dydd dyw'r peth ddim o dragwyddol bwys ond mae'n arwydd o ba mor daer am arian yr oedd pob un o'r pleidiau ddeugain mlynedd yn ôl. Erbyn hyn mae pob plaid sydd â phresenoldeb seneddol neu gynulliad yn derbyn rhyw faint o gymorth o'r coffrau cyhoeddus. Doedd hynny ddim yn wir yn y saithdegau ac roedd gwleidyddion yn gorfod chwilio am geiniogau yn y llefydd rhyfedda!