Gwrthdrawiad Bangor Uchaf: Cyhuddo dyn

Ffordd Caergybi Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Caergybi

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn a gafodd ei arestio ar ôl gwrthdrawiad ym Mangor Uchaf ddydd Iau.

Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw am 12:16 yn dilyn gwrthdrawiad yn ymwneud â char BMW glas a cherddwr ar Ffordd Caergybi.

Mae'r heddlu yn dweud eu bod wedi cyhuddo dyn 33 oed o yrru cerbyd yn ddiofal, methu â stopio ar ôl damwain, gyrru dan waharddiad, gyrru cerbyd heb yswiriant ac o gymryd cerbyd heb awdurdod.

Mae'r dyn, sy'n lleol i ardal Bangor, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ar 14 Hydref.

Nid oedd anafiadau'r dyn 25 oed mor ddifrifol ag yr oeddynt yn ymddangos ar yr olwg gyntaf, ac mae bellach wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty.