'Ansawdd bywyd gwaeth': Rhybudd adroddiad amgylcheddol

Coedtir
Image caption Dywed yr adroddiad bod angen i ni edrych ar ôl ein coetiroedd yn well

Fe all ansawdd bywyd pobl Cymru waethygu oni bai bod camau'n cael eu cymryd i reoli'r amgylchedd yn well, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn honni bod cynefinoedd a rhywogaethau yn cael eu colli a bod 'na fwy o risg o lifogydd oherwydd llygredd, goruchwylio gwael a diffyg data.

Yn ôl y corff sy'n gyfrifol am lawer o'r amgylchedd yng Nghymru, mae coetir ac afonydd yn llai gwydn i newidiadau a ddim yn cael eu gwerthfawrogi ddigon.

Maen nhw'n galw am fwy o gydweithio gan gyrff cyhoeddus i atal y dirywiad.

Daw'r adroddiad o ganlyniad i Ddeddf Amgylchedd 2016, sy'n galw am asesiadau blynyddol ynglŷn â sefyllfa'r amgylchedd yng Nghymru.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mike Evans, awdur yr adroddiad sydd yn esbonio'r cynnwys

Un o brif gasgliadau'r adroddiad yw bod dŵr yng Nghymru ddim yn cael ei rheoli cystal ag y gallai.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisiau mwy o fawndiroedd, coetiroedd a gorlifdiroedd i amsugno'r glaw ac i gynyddu'r nifer o gynefinoedd prin.

Maen nhw hefyd yn galw am newidiadau yn y ffordd mae afonydd, caeau, coetiroedd, glannau a llefydd dinesig yn cael eu rheoli, er mwyn eu gwneud nhw'n fwy gwydn ar gyfer newidiadau yn yr amgylchedd yn y dyfodol.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae llygredd aer mewn rhannau o Gymru oherwydd diwydiannau trwm

Pwynt arall yn y ddogfen yw llygredd traffig sydd yn cyfrannu at ansawdd aer gwael mewn mannau yng Nghymru. Dywed yr adroddiad bod 'na "fylchau" yn y ffordd mae awdurdodau lleol yn rheoli ansawdd yr aer.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod angen mwy o lefydd gwyrdd mewn ardaloedd dinesig er mwyn gwella ansawdd yr aer a'r dŵr ac i annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff.

Pwyntio bys

Daw'r adroddiad llai na phythefnos ers i gyrff cadwraethol ddweud bod un allan o bob 14 rhywogaeth dan fygythiad o ddiflannu'n llwyr yng Nghymru.

Mae'r corff yn portreadu darlun tywyll ond mae rhai wedi dweud nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud digon eu hunain i ddelio gyda'r problemau sydd yn cael eu tanlinellu yn yr adroddiad.

Yn 2014 fe wadodd y corff eu bod wedi newid eu meddwl ynglŷn â'r cynnig i adeiladu trac rasio ar gaeau gwyrdd ym Mlaenau Gwent.

Yn 2015 fe gafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei beirniadu am ganiatáu i ran o nant gael ei difrodi wrth gwblhau gwaith i atal llifogydd yn Llanrwst.

Dywedodd CNC ei bod wedi rhoi hysbysiad i Gyngor Conwy i adfer y niwed a'i bod yn gweithio gyda'r cyngor i ail sefydlu'r cynefin gafodd ei golli.

Image copyright PA
Image caption Mae yna fwy o risg o lifogydd yn y dyfodol meddai amgylcheddwyr

Bydd y ddogfen gafodd ei chyhoeddi ddydd Llun yn rhan o ymgynghoriad ynglŷn â pha reoliadau sydd angen i ddelio yn well gyda'r amgylchedd ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: "Er mwyn gwneud yn siŵr bod ein hadnoddau naturiol yn parhau i ddarparu ar ein cyfer ni a bod byd natur yn ffynnu, mae angen i ni ddeall yn well oblygiadau ein gweithredodd ac edrych ar ôl ein hadnoddau yn well.

"Dydyn ni ddim yn ystyried yn llawn y budd rydyn ni yn cael o'n hadnoddau naturiol a'n hecosystem wrth wneud penderfyniadau.

"Oherwydd hynny mae ein gweithredodd fel cymdeithas, nid yn unig yn lleihau ansawdd ein bywyd ni, ond hefyd cenedlaethau'r dyfodol wrth ddirywio ein byd natur ar raddfa na welwyd ei debyg o'r blaen.

"Rydyn ni eisiau gweithio gyda'n partneriaid ar draws y sector gyhoeddus ac ymhellach i daclo hyn."