Dreigiau 17-26 Glasgow

Finn Russell Image copyright SNS Group Gary Hutchison
Image caption Fe giciodd Finn Russell 16 o bwyntiau Glasgow

Roedd ceisiau yn naill hanner y gêm yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Glasgow yn erbyn y Dreigiau ar Rodney Parade.

Trosodd Finn Russell ddwy gic gosb i roi'r Albanwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf, cyn i sgarmes symudol effeithiol greu cyfle i'r bachwr Corey Flynn groesi am gais cyntaf y gêm.

Fe giciodd Nick MacLeod bwyntiau cyntaf y Dreigiau, cyn i Russell drosi unwaith eto er mwyn ei gwneud hi'n 16-3 i'r ymwelwyr ar yr egwyl.

Caewyd y bwlch i chwe phwynt unwaith eto ar ddechrau'r ail hanner wrth i Sam Hobbs groesi i'r tîm cartref, gyda MacLeod yn ychwanegu'r trosiad.

Roedden y Dreigiau ar y blaen ychydig funudau'n ddiweddarach wedi iddyn nhw wrthymosod yn effeithiol ar ôl i Russell golli'r bêl, gyda Jack Dixon yn gorffen y symudiad yn y gornel cyn i MacLeod drosi'n wych.

Ond fe darodd Glasgow nôl yn syth, gyda'r prop Alex Allan yn ffugio i greu bwlch i'w hun cyn carlamu'r ugain metr olaf a thirio dan y pyst ar ôl 50 munud.

Felly yr arhosodd hi nes munudau olaf yr ornest pan gafodd Glasgow gic gosb, gyda Russell yn trosi'n llwyddiannus er mwyn amddifadu'r Dreigiau o bwynt bonws.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Gwŷr Gwent yn aros yn seithfed yn nhabl y Pro12.