Rhybudd am law trwm dros dde Cymru

Weather warning location Image copyright Met Office

Mae rhybudd melyn i baratoi am law trwm wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer de Cymru ddydd Sadwrn.

Fe fydd rhybudd y Swyddfa Dywydd mewn grym o 02:00 tan 18:00 pan fydd y tywydd yn clirio rhywfaint.

Wrth fanylu fe ddywed y rhybudd y bydd mwy o gawodydd nos Wener gan arwain at law trymach gyda phosibilrwydd o genllysg, mellt a tharanau a gwyntoedd cryfion.

Mae'r rhybudd hefyd yn dweud y gallai llifogydd ddigwydd ar ffyrdd gan achosi trafferthion i yrwyr ar draws y de.