Gwrthdrawiad: Dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol

Heddlu

Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Llandudno.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd, Citroen ZX a Dacia Logan, am 00.23 fore Sadwrn ar gyffordd Ffordd Clarence.

Cafodd gyrrwr y Citroen anafiadau all beryglu ei fywyd ac fe aeth y gwasanaeth ambiwlans ag ef i Ysbyty Glan Clwyd.

Dywed yr heddlu nad yw'r dyn, sydd yn ei 20au, yn lleol i'r ardal.

Mae'r heddlu yn gofyn i lygad dystion gysylltu trwy ffonio 101.