Gêm o ddau hanner sy'n gadael dyfodol Guidolin yn y fantol

Abertawe 1-2 Lerpwl

Gêm o'r diarhebol ddau hanner a gafwyd yn Stadiwm Liberty, Abertawe rhwng yr Elyrch a'r Cochion o Lerpwl.

Yn yr hanner cyntaf y tîm cartref aeth a hi gyda phêl-droed meistrolgar.

Ond yn yr ail hanner dim ond un tîm oedd ynddi - Lerpwl.

Gyda'i rheolwr Francesco Guidolin mewn peryg o golli ei swydd ar ôl dechrau siomedig i'r tymor, roedd gofyn i Abertawe gael cychwyn da i'r gêm.

Ac felly y buodd hi wrth i'r Elyrch fynd ar y blaen ar ôl 12 munud efo gôl gan Leroy Fer o gic gornel.

Y disgwyl gan yr arbenigwyr oedd y byddai hon yn gêm rwydd i'r Cochion o Lannau Mersi gan eu bod wedi cael dechrau da i'r tymor.

Yn ôl llawer, nhw oedd yn chwarae'r pêl-droed gorau o holl dimau'r gynghrair efo'u pasio cyflym un cyffyrddiad.

Dechrau da i'r Elyrch

Ond y tîm o Gymru oedd yn chwarae'r pêl-droed mwyaf slic ar ôl dechrau'r gêm.

Seren fawr Gwlad yr Iâ yn yr Ewros yr haf yma a meistr canol cae yr Elyrch, Gylfi Sigurðsson, oedd yn disgleirio fwyaf efo'i basio celfydd a'i giciau rhydd peryglus.

Dechreuodd Lerpwl yr ail hanner ar dân. Cafodd chwaraewr canol Abertawe, Leon Britton gerdyn melyn am drosedd sinigaidd 25 llath o'r gôl.

Roedd wal amddiffynnol y tîm cartref yn gadarn wrth flocio'r ergyd gyntaf.

Ond wrth i'r amddiffyn ruthro allan gan obeithio dal blaenwyr Lerpwl yn camsefyll, llwyddodd Roberto Firmino i benio'r bêl i'r rhwyd o'r ail groesiad a dod a'r sgôr yn gyfartal.

Bellach roedd hi'n draffig unffordd efo ton ar ôl ton o ymosodiadau gan Lerpwl.

Lerpwl yn taro yn ôl

Roedd raid i Abertawe geisio gwneud rhywbeth i atal y llifddorau.

Daeth Guidolin a dau chwaraewr canol y cae o'r fainc - Barrow a Ki i ddisodli Routledge a chapten yr Elyrch, Leon Britton.

Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraewyr Lerpwl yn dathlu

Ond doedd dim pall ar egni ac awch y Cochion.

A mater o amser oedd hi cyn i'r ymwelwyr sgorio.

Fe ddaeth yr ail gôl o gic o'r smotyn ar ôl i Rangel faglu Firminio yn y bocs. Y Sais James Milner blannodd y bêl yng nghefn y rhwyd o'r smotyn.

Yn yr amser ychwanegol fe gafodd Abertawe gyfle euraid i unioni'r sgôr ond heibio'r postyn aeth y bêl.

Felly siom fawr i'r Elyrch. Ac er gwaetha'r ymdrech fawr y tîm, oherwydd colled arall mae dyfodol rheolwr Abertawe, Guidolin, yn y fantol.