Yr Adar Gleision yn colli eto

Burton Albion 2-0 Caerdydd

Doedd yna fawr ddim i godi calon cefnogwyr pêl-droed Caerdydd mewn perfformiad siomedig arall heddiw ar ôl iddyn nhw golli o 2 - 0 oddi cartref.

Mae'r Adar Gleision yn mynd drwy gyfnod hesb o flaen y gôl y dyddiau hyn.

Burton Albion oedd y gwrthwynebwyr a dyma'r tro cyntaf i'r ddau wynebu ei gilydd yn y gynghrair.

Ar ôl cychwyn tila i'r tymor roedd hi'n bnawn allweddol i dîm y brifddinas ac yn arbennig eu rheolwyr, Paul Trollope.

Mae o dan y lach efo'i dîm yn agos iawn i waelod tabl y Bencampwriaeth.

Er bod y tywydd yn echrydus fe gafwyd dechrau bywiog efo Peter Whittingham yn dod yn agos yn y munudau cyntaf.

Caerdydd oedd yn rheoli ac yn groes i lif y chwarae fe sgoriodd Burton gôl dda ar ôl 11 munud. Jackson Irvine, prif sgoriwr Burton, yn sgorio efo ergyd dda efo'i droed chwith o'r tu allan y bocs.

Chwarae da

Er bod yr Adar Gleision ar ei hôl hi roedden nhw'n chwarae yn dda ac yn ennill cig gornel ar ôl cic gornel mewn hanner cyntaf bywiog.

Ond cafodd Caerdydd y dechrau gwaethaf posib yn yr ail hanner ar ôl iddyn nhw ildio gôl arall o fewn pum munud.

Image copyright Rex Features
Image caption Burton Albion yn dathlu

Roedd amddiffynfa y brif ddinas ar chwâl ar ôl cic rydd i'r postyn pellaf a dau beniad - yr olaf gan Lucas Akins - a'r bêl yng nghefn y rhwyd.

Côr yn llafarganu ' sacio yn y bore' oedd ymateb y cefnogwyr yr ymwelwyr.

Colli eto

Fe ddaeth Caerdydd a chawr o ymosodwr arall ar y cae - Frédéric Gounongbe.

Ond roedd cyn amddiffynnwr Caerdydd, Ben Turner, ar ei orau fel craig yn y cefn i Burton.

Yn 10 munud olaf y gêm dechreuodd yr Adar Gleision ddangos mwy o fenter a phenderfyniad a daeth Noone a Whittingham yn agos.

Ond methu sgorio unwaith eto oedd eu hanes a cholli eu chweched gêm yn y saith olaf.