Y Gleision yn colli y tro cyntaf y tymor hwn

Gleision 13-16 Leinster

Am y tro cyntaf y tymor hwn fe wnaeth y Gleision golli gartref yn erbyn Leinster.

Oherwydd perfformiad penigamp y maswr Gareth Anscombe, oedd yn cynnwys cais unigol gwefreiddiol, fe aeth y Gleision ar y blaen.

Ond fe darodd Leinster yn ôl gyda chais yn dod gan Rhys Ruddock ac ar ôl cic gosb fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen.

Gyda Josh Navidi o Leinster yn y gell gosb am gamsefyll fe benderfynodd y Gleision fynd am gais yn hytrach na thri phwynt.

Roedd hynny bron ar ddiwedd y gêm ond methiant fu eu hymdrech wrth i amddiffyn Leinster gadw yn gadarn.

Mae'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr yn golygu eu bod yn y trydydd safle yn nhabl y Pro 12, un safle ar y blaen i'r Gleision.