Abertawe'n penodi Bob Bradley yn lle Francesco Guidolin

Guidolin Image copyright Getty Images
Image caption Fe gollodd Guidolin ei swydd ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 61

Mae Abertawe wedi diswyddo eu rheolwr, Francesco Guidolin, a phenodi cyn-reolwr yr Unol Daleithiau Bob Bradley yn ei le.

Dyw Abertawe heb ennill yn yr Uwch Gynghrair ers gêm gynta'r tymor.

Bydd yr Americanwr, Bradley, yn ymuno â'r Elyrch ar ôl arwain ei glwb presennol, Le Havre o Ffrainc, am y tro olaf heno.

Daw ei benodiad rai misoedd wedi i gonsortiwm o'r wlad honno gymryd yr awenau yn Stadiwm Liberty.

Fe arweiniodd Bradley ei wlad yng Nghwpan y Byd 2010, ac mae hefyd wedi rheoli yn Norwy a'r Aifft.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe enillodd Bradley y Gold Cup gyda charfan genedlaethol yr UDA yn 2007

Fe gafodd Guidolin ei benodi'n rheolwr ym mis Ionawr 2016 gydag Abertawe dau bwynt uwchlaw safleoedd disgyn yr Uwch Gynghrair.

Gorffenodd yr Elyrch yn y 12ed safle o dan lywyddiaeth yr Eidalwr, sydd wedi rheoli nifer o dimau yn yr Eidal, yn ogystal â Monaco.

Ond er i'w ail dymor gyda'r clwb gychwyn yn dda, gyda buddugoliaeth oddi cartref yn Burnley, aeth y clwb ar rediad gwael o chwe gêm gynghrair heb ennill.

Gêm olaf Guidolin oedd y golled o 2-1 yn erbyn Lerpwl ddydd Sadwrn.

'Sefydlogrwydd'

Dywedodd cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, ei bod hi'n "siom" bod Guidolin yn gadael, ond mynnodd bod "angen newid cyn gynted â phosib i allu symud ymlaen mewn ffordd bositif".

Ychwanegodd: "Rydym ni'n falch bod Bob wedi cytuno i ymuno â ni.

"Mae ganddo enw da fel hyfforddwr a llawer o brofiad ar lwyfannau rhyngwladol a chenedlaethol.

"Dyw newid rheolwyr ddim yn hawdd, ond penodiad tymor hir yw hwn a rydym ni'n hyderus y gallai Bob roi sefydlogrwydd i ni ar y cae ac oddi ar y cae."

Image copyright Twitter
Image caption Fe gadarnhaodd y clwb y newyddion ar eu cyfrif Twitter ddydd Llun

Mae tri hyfforddwr hefyd yn gadael y clwb ynghyd â Guidolin.

Mae gêm nesaf Abertawe ar 15 Hydref, oddi cartref yn Arsenal.