Trafod cynllun 1m o siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun Ewrop

Cymraeg

Mae arbenigwyr wedi bod yn trafod gweledigaeth gweinidogion i geisio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 mewn cynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Bwriad y gynhadledd yw ystyried y cynllun mewn cyd-destun rhyngwladol a "chyfnewid gwybodaeth am wahanol agweddau ar gynllunio ieithyddol ac amlieithrwydd yn Ewrop".

Mae'r gynhadledd hefyd wedi bod yn clywed am waith i annog pobl i ddysgu a siarad Basgeg (Euskara) gan Is-weinidog y Fasgeg, Patxi Bazterrikka.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies bod yr "ewyllys a'r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ac yn datblygu" yn bodoli, a bod angen manteisio ar y cyfle.

Ailddyfeisio

Mae'r gynhadledd yn rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth ar gyfer y Gymraeg, a'r bwriad i gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn erbyn 2050.

Hefyd yn siarad yn y gynhadledd yng Nghanolfan y Mileniwm mae'r Athro Rob Dunbar o Brifysgol Caeredin a Laura McAllister o Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Image caption Alun Davies yw Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Dywedodd Alun Davies bod y Fasgeg wedi "llwyddo i ailddyfeisio ei hun", ac fel y Gymraeg yn "cynrychioli mwy na'r hawl i lefaru ei geiriau; mae'n cynrychioli'r hawl sydd gan bobl i ddewis eu hunaniaeth eu hunain, ac yn y pen draw, i greu eu hanes eu hunain".

Ychwanegodd: "Yng Nghymru, mae gennym yr ewyllys a'r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ac yn datblygu, a'i bod yn berthnasol i'r byd modern; mae angen i ni wneud y defnydd gorau posib ohonynt."

Straeon perthnasol