Cynlluniau i annog cynghorau i gydweithio yn lle uno

Gwasanaethau cyngor

Mae cynlluniau i orfodi cynghorau Cymru i weithio gyda'i gilydd mewn partneriaethau rhanbarthol wedi cael eu cyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol.

Daw'r cynlluniau ar ôl i Mark Drakeford ollwng cynlluniau Llywodraeth Cymru i dorri nifer y cynghorau o 22 i wyth neu naw.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'r cynghorau yn parhau i fod yn "ddrws blaen" ar gyfer democratiaeth o fewn llywodraeth leol, ond y byddai rhai gwasanaethau yn cael eu rhedeg ar lefel rhanbarthol.

Bydd adnoddau gofal cymdeithasol a gwella addysg yn cael eu rhannu ar hyd ffiniau'r saith awdurdod iechyd presennol yng Nghymru, ac fe fydd datblygiad economaidd a thrafnidiaeth yn cael ei drefnu ar sail dinas-ranbarthau.

Mae'r Ceidwadwyr wedi annog y llywodraeth i "beidio brysio" gyda'r cynlluniau.

Annog uno gwirfoddol

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cyflwyno cynlluniau mwy pendant erbyn diwedd y flwyddyn, yn dilyn trafodaethau gyda chynghorau.

Mae'r cynllun yn cael ei weld fel ymdrech sylweddol i integreiddio gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar hyd yr un ffiniau.

O dan y cynlluniau, ni fyddai unrhyw newid i'r 22 o gynghorau presennol, ond byddai awdurdodau yn cael eu hannog i uno yn wirfoddol.

Byddai un model sy'n cael ei ystyried yn gweld cabinetau newydd yn cael eu creu gyda chynrychiolwyr o'r gwahanol gynghorau, ond nid yw hyn wedi cael sêl bendith eto.

Cydweithio rhanbarthol

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'r cynlluniau yn golygu bod cynghorwyr yn cael eu hethol yn 2017 a 2022 yn yr un modd ag y maen nhw ar hyn o bryd - oni bai bod cynghorau'n uno'n wirfoddol - ond y byddai "gwasanaethau allweddol yn cael eu darparu'n rhanbarthol".

"Y tu ôl i'r porth hwn, byddai lefel uwch o gydweithio rhanbarthol gorfodol a systematig. O ganlyniad, bydd mwy o sicrwydd i'r awdurdodau lleol o ran staffio a chyllid, a bydd modd cynllunio a darparu gwasanaethau ar y raddfa gywir," meddai'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol.

"Awgrymwyd bod dau fodel gennym i ddarparu'r gwasanaethau hyn; un yn seiliedig ar y Dinas-ranbarthau yn cwmpasu trafnidiaeth strategol, cynllunio defnydd tir a datblygu economaidd, a'r llall yn unol â'r byrddau iechyd ar gyfer meysydd fel gwella addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac amddiffyn y cyhoedd.

"Wrth gwrs, efallai y bydd rhai awdurdodau am gryfhau fwy byth drwy uno'n wirfoddol, ac fe fyddwn yn eu helpu i wneud hynny."

'Peidio brysio'

Dywedodd Janet Finch-Saunders o'r Ceidwadwyr bod y blaid yn falch nad ydi'r llywodraeth yn bwrw ymlaen â'u cynlluniau i uno cynghorau.

Ond rhybuddiodd y llywodraeth i "beidio brysio" gyda'r cynlluniau, ac i "ystyried y camau nesaf yn iawn".

"'Dyn ni ddim eisau gweld gwasanaethau'n cael eu dyblygu yn ddiangen," meddai, gan ychwanegu bod angen "cyngor eglur am ystod a ffurf y cytundebau i bartneru".

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni gael sgwrs ddifrifol am ba wasanaethau fydd awdurdodau lleol yn eu cynnal yn y dyfodol a wedyn datblygu system i gyd-fynd â hynny. Unwaith eto mae'r llywodraeth yn gwneud pethau y ffordd groes."

Arbedion

Fe groesawodd undeb UNSAIN y mesurau, gan ddweud y byddai rhannu arbenigedd yn arwain at arbedion ac yn gwneud gwasanaethau cymunedol yn gynaliadwy.

Ond fe ychwanegon nhw bod angen cyllido Cymru "mewn ffordd decach" ynghyd â buddsoddi mewn gwasanaethau.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad, gan ddweud eu bod yn falch y bydd cynghorau yn parhau i fod "yn sownd i'w cymunedau" yn dilyn y newidiadau arfaethedig.