Agoriad swyddogol ysgol newydd gwerth £30m

Bydd ysgol newydd gwerth £30m yn cael ei hagor yn swyddogol yn Sir Gaerfyrddin ddydd Mawrth.
Mae 1,200 o ddisgyblion yn mynychu Ysgol Bro Dinefwr yn Ffairfach, Llandeilo, gan gynnwys 200 o ddisgyblion chweched dosbarth.
Cafodd yr ysgol ddwyieithog ei hadeiladu mewn partneriaeth gyda rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Mae'n rhan o fuddsoddiad gwerth £70m i ysgolion yn ardal Dinefwr.