Myfyriwr yn Abertawe wedi marw yn dilyn gêm bêl-fasged

Dom Newton Image copyright Wales news service
Image caption Bu farw Dom Newton ar ôl cael ei daro'n wael nos Lun

Mae myfyriwr o gampws prifysgol Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe wedi marw ar ôl cael ei daro'n wael yn ystod gêm bêl-fasged.

Cafodd Dom Newton, oedd yn gapten ar dîm y brifysgol, ei ruthro i'r ysbyty toc wedi 21:00 nos Lun mewn cyflwr difrifol ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw.

Bu farw yn Ysbyty Treforys yn Abertawe ychydig yn ddiweddarach.

Image copyright Arall
Image caption Roedd Dom Newton yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant

Dywedodd datganiad ar dudalen Facebook undeb myfyrwyr y brifysgol: "Rydym i gyd yn meddwl ac yn gweddïo dros deulu a ffrindiau ein capten pêl-fasged Dom Newton heddiw, fu farw dan amgylchiadau trasig neithiwr.

"Roedd Dom yn rhan fawr o fywyd prifysgol yn Abertawe ac fe fydd colled fawr ar ei ôl."

Ychwanegodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant mewn datganiad eu bod "yn drist iawn o glywed y newyddion trasig am un o'n myfyrwyr".

"Hoffwn atgoffa'n myfyrwyr a'n staff bod ein tîm gwasanaethau myfyrwyr proffesiynol ar gael i gynnig cefnogaeth yn breifat."