'Angen hybu'r Gymraeg yn y llysoedd barn'

Scales of justice Image copyright Thinkstock

Dylai pobl fod yn fwy parod i siarad Cymraeg yn y llysoedd, yn ôl un o farnwyr mwyaf blaenllaw Cymru.

Dywedodd Cofiadur Caerdydd, Eleri Rees, nad oedd angen i bobl deimlo "eu bod nhw'n gwneud ffys" pan yn siarad Cymraeg yn y llysoedd barn.

"Mae pethau wedi gwella yn sobor," meddai'r Barnwr Eleri Rees mewn cyfweliad ar raglen Dan yr Wyneb ar BBC Radio Cymru, fydd yn cael ei darlledu nos Lun.

"Nawr mae'r Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â'r iaith Saesneg - mae Deddf Iaith 1993 wedi sicrhau hynny.

"Mae hyfforddiant ar gyfer barnwyr sy'n eistedd ac ar hyn o bryd mae naw o'r 28 barnwr cylchdaith yng Nghymru yn siarad Cymraeg. Mae pob barnwr sy'n eistedd yn y gogledd yn siaradwyr Cymraeg.

"Mae comisiwn apwyntiadau barnwrol, felly pan mae 'na swydd yn y gogledd, mae siarad Cymraeg yn ofynnol."

Image caption Eleri Rees

'Niwsans'

Dywedodd ei bod hi'n cydnabod fod rhai yn gweld y broses o siarad Cymraeg yn y llysoedd yn lletchwith, ond fod ddim eisiau i bobl deimlo felly.

"Ni'n deall fod 'na resymau fod pobl yn teimlo [fel eu bod nhw'n niwsans], fel yna ry'n ni wedi bod, [wedi gorfod] hawlio defnyddio'r Gymraeg," meddai.

"Ond beth fyddden i'n ddweud yw bod croeso i bobl ddefnydio'r Gymraeg a dylen nhw ddim meddwl eu bod nhw'n niwsans o gwbl.

"Mae ganddom ni gyfieithwyr ar y pryd. Unwaith chi'n dechre' mae'n hollol naturiol, ond dwi yn deall ambell i waith fod pobl yn meddwl 'o dwi ddim isie neud ffys'. Ond dyden ni ddim yn ei weld e fel ffys. Ni'n gweld e fel hawl.

"Mae'n bwysig hybu'r iaith achos mae'r egwyddor o gyfartaledd yna a ni'n croesawu pobl sydd eisiau defnyddio'r Gymraeg."

Gwrandewch ar y sgwrs yn llawn ar 'Dan yr Wyneb' ar BBC Radio Cymru, 18:00 Dydd Llun 10 Hydref.