Wrecsam 1-2 Lincoln

Gary Mills Image copyright Rex Features

Mae'r pwysau ar reolwr Wrecsam Gary Mills yn cynyddu ar ôl i'w dîm golli i Lincoln ar y Cae Ras.

Mills yw'r unig reolwr ymhlith prif glybiau pêl-droed Cymru sydd yn parhau yn ei swydd.

Daw hyn ar ôl i Gaerdydd ddiswyddo Paul Trollope, gyda Francesco Guidolin (Abertawe) a Warren Feeney (Casnewydd) hefyd wedi gorfod gadael.

Luke Waterfall sgoriodd i roi Lincoln ar y blaen gyda Harry Anderson yn ychwanegu'r ail.

Sgoriodd Hamza Bencherif gôl gysur hwyr i Wrecsam.