Dynes wedi marw ar ôl cael ei hachub o'r môr

Ambiwlans Awyr

Mae dynes wedi marw ar ôl cael ei hachub o'r mor ger Moelfre ddydd Mawrth.

Cafodd y wraig 65 oed ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn ambiwlans awyr, ond daeth cadarnhad gan Heddlu'r Gogledd yn ddiweddarach fod y wraig wedi marw yn yr ysbyty.

Dydy ei marwolaeth ddim yn cael ei drin fel un amheus.

Mae teulu'r wraig, oedd yn dod o ardal Northampton, wedi cael gwybod am ei marwolaeth, ac mae'r crwner wedi ei hysbysu.