Cwmni dur Casnewydd: Dros 100 wedi colli eu gwaith

AIC Steel Image copyright Google

Mae 101 o weithwyr wedi colli eu gwaith wedi i gwmni dur yng Nghasnewydd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae 29 o weithwyr yn dal ar y safle.

Cafodd AIC Steel Limited ei sefydlu yn 2013 i brynu cwmni dur arall yn y ddinas, Rowecord, aeth i ddwylo gweinyddwyr bryd hynny.

Roedd y gweinyddwyr, David Hill a Huw Powell o Begbies Traynor, wedi dweud ei bod yn debygol y bydd "diswyddiadau sylweddol".

Mae'r cwmni yn ystyried y posibilrwydd o barhau i fasnachu.