Beirniadu 'gwleidyddiaeth gwter' y Ceidwadwyr

Carwyn Jones Image copyright Getty Images
Image caption Er nad oes modd gwyrdroi canlyniad y refferendwm, meddai Carwyn Jones, mae'r frwydr yn parhau dros y dyfodol wedi Brexit

Mae Carwyn Jones wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o chwarae "gwleidyddiaeth y gwter" wrth drafod dyfodol tramorwyr.

Mae'r Ceidwadwyr wedi gwneud sawl cyhoeddiad ynglŷn â mewnfudo yng nghynhadledd y blaid yr wythnos hon, gan gynnwys cynllun i ofyn i fusnesau gadw cofnod o'u gweithwyr nhw sydd yn dod o dramor, a bwriad i hyfforddi mwy o ddoctoriaid o Brydain.

Ond mae Prif Weinidog Cymru wedi ymateb gan gyhuddo neges y blaid o fod yn un "sinistr" sy'n gwneud i fewnfudwyr deimlo nad oes croeso iddyn nhw.

Mae ei sylwadau yn ategu datganiad tebyg ar y cyd gan Blaid Cymru, y Blaid Werdd a'r SNP, sydd wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o "rethreg wenwynig ar fewnfudo".

Trafod mewnfudo

Ddydd Mawrth fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd bod angen rheolau llymach ar weithwyr a myfyrwyr o dramor er mwyn "newid llif" y farn gyhoeddus ar fewnfudo ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd hefyd y dylai rheolau ar hysbysebu i weithwyr o Brydain gyntaf cyn chwilio ymhellach na hynny gael eu tynhau - gan fynnu nad oedd hi'n bod yn "hiliol" wrth siarad am fewnfudo.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt hefyd wedi dweud wrth gynhadledd y Ceidwadwyr ei fod am weld "mwy o feddygon o Brydain yn ein gwasanaeth iechyd", ac mai dim ond o "dro i dro" fyddai angen gweithwyr tramor i lenwi'r bwlch.

Yn y gorffennol mae Llafur hefyd wedi addo mesurau llymach ar fusnesau sydd yn cyflogi nifer uchel o weithwyr tramor, gyda chyn-arweinydd y blaid Ed Miliband yn awgrymu y dylai cwmnïau orfod dweud os oedd dros 25% o'u gweithlu yn dramorwyr.

Image caption Dywedodd Ms Rudd nad oedd hi'n hiliol i drafod pryderon ynglŷn â mewnfudo

Mewn llythyr i aelodau'r blaid Lafur dywedodd Carwyn Jones bod cyhoeddiadau cynhadledd y Ceidwadwyr wedi bod yn "annifyr, sinistr a chywilyddus", a'i fod yn arwydd o "wleidyddiaeth y gwter".

Dywedodd ei bod hi'n "sarhad ofnadwy" i awgrymu bod unrhyw beth ond croeso i feddygon tramor a'u teuluoedd tra bod eu hangen nhw ar y gwasanaeth iechyd, gan ddweud na fyddai'r polisïau arfaethedig hynny yn Lloegr yn cael eu hefelychu yng Nghymru.

"Fydd 'na ddim neges 'ewch adref' i feddygon tramor yng Nghymru. Fydd dim rhestr o weithwyr tramor mewn busnesau Cymreig," meddai.

"Fe fyddwn ni hefyd yn ymladd yn erbyn cynigion i gau drysau ein prifysgolion i'r goreuon a'r mwyaf disglair o bob cwr o'r byd."

Yn gynharach ddydd Mercher fe ryddhaodd Plaid Cymru, y Blaid Werdd a'r SNP ddatganiad ar y cyd yn beirniadu'r Ceidwadwyr am ddefnyddio Brexit fel esgus i "dorri cysylltiadau ag Ewrop mewn ffordd drastig".

"Mae hyn yn gyfle i ni danlinellu pwysigrwydd gweithio gyda'n gilydd i wrthwynebu gwleidyddiaeth wenwynig y Torïaid, a dadlau'r achos dros ddyfodol gwell i'n pobl a'n cymunedau," meddai'r datganiad, oedd yn cynnwys llofnod arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ac arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Alice Hooker-Stroud.

Ond fe ddywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, bod sylwadau Carwyn Jones yn "hurt", a bod angen "trafodaeth synhwyrol ac onest" am fewnfudo.

"Yn y bôn, os oes agwedd wenwynig o gwmpas gwleidyddiaeth mewnfudo mae hynny oherwydd bod sawl llywodraeth Lafur dros gyfnod o 13 mlynedd wedi rhwystro trafodaeth gymhedrol a gadael miliynau o bobl yn teimlo'n rhwystredig ac wedi'u hanwybyddu," meddai.

"Nawr maen nhw'n edrych fel petaen nhw wrthi eto."