Tranc y Tir Canol

Gan mai blog Cymraeg a Chymreig yw hwn gwleidyddiaeth Cymru sydd dan sylw yn ddieithriad bron. Heddiw, am unwaith, rwyf am ddilyn arfer gormod o wleidyddion Prydeinig a gosod Cymru i'r neilltu mewn bocs bach gyda'r Alban, Gogledd Iwerddon, Jersey, Gibraltar a'r gweddill.

Mae'r hyn sydd gen i ddweud yn ymwneud â Lloegr yn unig, am nawr, o leiaf. Cwestiwn sy gen i yn hytrach nac ateb. Dyma fe - ydy oes hir cymedroldeb a'r tir canol yn dod i ben yn nhiroedd ein cymdogion gydag oes o eithafion yn cymryd ei lle?

Nawr mae newid oes yn beth anodd iawn i ddirnad ar y pryd. Gall treigl amser wneud y mawr yn fach a'r bach yn fawr ond fe fyddai'r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno bod penderfyniad y Ceidwadwyr i dderbyn y rhan fwyaf o ddiwygiadau llywodraeth Attlee wedi esgor ar gyfnod hir o gonsensws gwleidyddol ym Mhrydain.

Doedd cwestiwn Jo Grimond "which twin is the Tory?" ddim yn gwbwl deg, annheg hefyd oedd yr holl sgrechiadau yna ar Twitter am 'Dorïaid cochion' ond roedd y ddwy blaid fwyaf, ill dwy, yn defnyddio ieithwedd y tir canol i ddisgrifio'u polisïau ac ar y tir canol yr oedd brwydrau etholiadol yn cael ei hymladd.

Cafwyd tipyn o newid gêr a gwrthdaro yng nghanol yr wythdegau ac fe symudodd lleoliad y tir canol ychydig i'r dde ond ar y cyfan mae oes cymedroldeb wedi para tan ein dyddiau ni.

Nawr ystyriwch yr hyn sy'n digwydd y tu hwnt i Glawdd Offa ar hyn o bryd. Gydag ethol Jeremy Corbyn, a'r Blaid Llafur yn symud i'r chwith, fe fyddai dyn wedi disgwyl i'r Ceidwadwyr geisio meddiannu'r tir canol ac, yn wir, dyna geisiodd David Cameron wneud cyn i fwyell Brexit ddisgyn ar ei war.

Yn ei dyddiau cyntaf fel Prif Weinidog roedd hi'n ymddangos mai dyna oedd bwriad Theresa May hefyd. Erbyn hyn mae pethau wedi newid. Mae polisïau megis ail-gyflwyno ysgolion gramadeg a'u cefndryd tlawd y 'Sec Mods' a'r cyfyngiadau llym ar ymfudo yn rhai a fyddai, misoedd yn unig yn ôl, wedi cael eu hystyried yn eithafol ac yn etholiadol tocsig. Does dim awgrym chwaith bod Ms May yn bwriadu gwneud unrhyw beth i leddfu ofnau gwaethaf y 48% oedd yn gefnogol o'r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm. Bang o Brexit nid Brexit bychan sydd o'n blaenau.

Pwy sydd ar ôl i fod yn eiriol dros y canol cymedrol felly? Cyn belled ac i fi'n gallu gweld gweddillion y Democratiaid Rhyddfrydol, y blaid Lafur seneddol ysbaddedig ac Anna Soubry yw'r ateb. I ddyfynu Yeats, "Things fall apart; the centre cannot hold" does ond gobeithio nad oes fwystfil yn camu tua Bethlehem dref!

Yn ôl a ni at Gymru fach. Yma mae Llafur Cymru yn ceisio rhoi dŵr clir o riw liw neu'i gilydd rhyngddi hi a Llafur Prydain tra bod Andrew R.T Davies yn mynnu na ddylai ei blaid gael ei gweld fel yr 'angry party' a bod ei hapêl yn bennaf i ddeiliaid y tir canol.

Am faint bariff hynny, tybed?