Awstria v Cymru: Y cam nesaf i Rwsia?

Joe Allen Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Joe Allen ei gôl gyntaf i Gymru yn y fuddugoliaeth dros Moldova

Wrth i Gymru baratoi i chwarae Awstria yn ail gêm ymgyrch Cwpan y Byd 2018, gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Owain Llŷr, sy'n edrych ymlaen.

Yn aml iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gobeithion Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol wedi bod ar chwâl yn dilyn y gemau rhagbrofol agoriadol.

Mae rhywun yn cofio 'nôl i 2010 a rowndiau rhagbrofol Euro 2012. Colli 1-0 oddi cartref yn Montenegro.

Y diwrnod canlynol John Toshack yn ymddiswyddo, ac yna tra'r oedd Brian Flynn wrth y llyw dros dro - colli'n erbyn Bwlgaria a'r Swistir.

Llawn hyder

Yn y gorffennol, mae Cymru wedi ei gweld hi'n anodd ennill gemau'n erbyn gwledydd fel Moldova. Fe gollon nhw'n erbyn yr un gwrthwynebwyr yn ystod dyddiau Chris Coleman fel chwaraewr.

Ond doedd yna ddim perygl o hanes yn ail-adrodd ei hun fis diwethaf.

Mi oedd o'n berfformiad llawn hyder gan y crysau cochion. A hynny i'w ddisgwyl mae'n debyg yn dilyn eu llwyddiant yn Euro 2016. Y gwir amdani ydi y bysa nhw wedi gallu sgorio llawer mwy.

Image copyright Getty Images
Image caption Cyrhaeddodd Cymru rownd gynderfynol Euro 2016 yn Ffrainc cyn colli i Bortiwgal

Mi oedd rhai yn poeni ar ôl Euro 2016 na fysa'r un awch yn bodoli ymysg y garfan i gyrraedd Cwpan y Byd 2018. Poeni fod y chwaraewyr yn mynd i fodloni ar beth lwyddon nhw i'w gyflawni yn Ffrainc.

Ond mae un peth yn sicr - mae'r garfan yr un mor benderfynol i gyrraedd Rwsia mewn dwy flynedd.

Maen nhw wedi cael blas o sut beth ydi hi i chwarae ar y llwyfan rhyngwladol mwyaf, ac maen nhw eisiau profi'r wefr yna eto - y tro yma yn erbyn gwledydd fel Brasil a'r Ariannin.

Coleman yn aros

Mae'n amhosibl pwysleisio pa mor bwysig oedd hi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddal eu gafael ar Chris Coleman ar ôl Euro 2016. Does dim angen i fi ddweud wrthoch chi cystal swydd mae o wedi ei wneud.

Oherwydd hynny, doedd hi ddim syndod gweld Hull City yn gwneud cais i gael cynnal trafodaethau efo fo ynglŷn â'u swydd wag nhw.

Ond gwrthod y cais wnaeth y gymdeithas, ac yn y pen draw doedd gan Coleman ei hun ddim diddordeb gadael.

Image copyright Rex Features
Image caption Mae Chris Coleman yn "arweinydd heb ei ail" medd Osian Roberts

I ddyfynnu ei is-reolwr Osian Roberts, nid yn unig ei fod yn rheolwr gwych ond mae o hefyd yn "arweinydd heb ei ail".

Mae Ashley Williams yn dweud fod beth mae o'n ei ddweud yn yr ystafell newid cyn gemau yn ddigon i ddod a deigryn i'r llygad.

Mae'r chwaraewyr i gyd yn ei barchu ac mae o'n llwyddo i'w hysbrydoli i roi 100% ymhob gêm.

Ramsey yn golled

Mi fydd Coleman unwaith eto heb Aaron Ramsey ar gyfer y ddwy gêm yn erbyn Awstria a Georgia oherwydd anaf. Mae pob cefnogwr yn gwybod y bydd o'n golled anferth gan ei fod o cystal chwaraewr.

Dwi'n dal i feddwl weithiau beth fysa wedi digwydd yn rownd gynderfynol Euro 2016 yn erbyn Portiwgal tasa fo heb gael ei wahardd.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Aaron Ramsey ei anafu yn chwarae i Arsenal ar ddiwrnod cynta'r tymor

Ond mae'n bwysig cofio fod yna ddyfnder yng ngharfan Cymru y dyddiau hyn. Mae disgwyl i Andy King gymryd ei le yn y tîm unwaith eto - chwaraewr enillodd Uwch Gynghrair Lloegr 'efo Caerlŷr y tymor diwethaf.

Felly er nad yw Ramsey ar gael mi fydd yna ddigon o brofiad yng nghanol cae diolch i bresenoldeb King, Joe Allen a Joe Ledley.

Dwi'n disgwyl i Sam Vokes arwain y llinell flaen unwaith eto gan ei fod o'n chwarae'n rheolaidd yn Uwch Gynghrair Lloegr, efo Hal Robson-Kanu i ddod ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner.

Ac wedyn mae gweddill y tîm yn dewis ei hun. Gareth Bale yn chwarae tu ôl i Vokes mewn rôl rydd. Wayne Hennessey yn y gôl. A Chris Gunter, James Chester, Ashley WIlliams, Ben Davies a Neil Taylor yn yr amddiffyn.

Ar bapur, y gêm yn Awstria ydi'r gêm anoddaf yn y grŵp gan mai nhw ydi'r ail ddetholion. Dwi'n siŵr y bysa Chris Coleman yn hapus efo gêm gyfartal. Ond yn bersonol dydw i ddim yn gallu gweld dim byd arall ond buddugoliaeth i Gymru.

Dilynwch y gêm ar ein llif byw arbennig fydd yn dechrau am 19:15.

Straeon perthnasol