Mesur Cymru'n 'gam yn ôl i ddatganoli', medd pwyllgor

Cynulliad a SS
Image caption Pasiwyd Mesurau i datganoli pwer i Gymru o San Steffan ym 1998, 2006 a 2014

Mae 'na berygl bydd cynlluniau i roi mwy o rym i'r Cynulliad yn gam yn ôl i'r broses ddatganoli, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Bu newidiadau i Fesur Cymru - sydd i'w drafod yn Nhŷ'r Arglwyddi'r wythnos nesaf - wedi beirniadaeth y byddai rhai pwerau'n cael eu glastwreiddio.

Yn ôl y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, nid yw'r newidiadau'n ddigon i sicrhau setliad datganoli parhaol.

Ond fe ddywedodd Swyddfa Cymru y byddai'r Mesur yn "yn sicrhau setliad datganoledig cryfach, clir a theg".

Pwrpas y Mesur yw diffinio'n gliriach pa lywodraeth sy'n gwneud beth.

Mesur arall?

Yn gynharach eleni, penderfynodd Swyddfa Cymru leihau'r rhestr o faterion sy'n cael eu cadw'n ôl yn San Steffan.

Mae'r Mesur yn rhoi'r hawl i'r Cynulliad godi trethi, a hynny heb yr angen am refferendwm ar y mater, yn ogystal â phwerau pellach mewn meysydd fel trafnidiaeth ac ynni.

Ond mae'r pwyllgor yn rhybuddio ei bod hi'n bosibl y bydd llywodraeth DU yn gorfod cyflwyno mesur newydd arall yn y dyfodol.

Image caption Huw Irranca-Davies, AC Ogwr, sy'n cadeirio'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Dywedodd Huw Irranca-Davies, yr Aelod Cynulliad sy'n cadeirio'r pwyllgor: "Ar adeg pan mae'r DU yn diffinio ei pherthynas ag Ewrop yn dilyn refferendwm yr UE, dylai hefyd fod yn diffinio'r berthynas rhwng ei haelod wledydd ei hun.

"Rydym yn credu y byddai'n llawer mwy synhwyrol ond hefyd yn hanfodol pe byddai modd cytunedig o gydweithredu rhwng dau gorff seneddol - rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'i bwyllgorau, a'r Senedd, ei dau Dŷ a'i phwyllgorau.

"Rydym yn argymell datblygu ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd fel mater o frys, yn ddelfrydol cyn i ddeddfwriaeth gyfansoddiadol bwysig arall gael ei dwyn ymlaen, ac mae ein pwyllgor yn barod i gyfrannu at y gwaith hwn."

'Beirniadaeth ddeifiol'

Ar raglen Y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, dywedodd aelod o Bwyllgor Cyfansoddiadol y Cynulliad, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas fod hon "yn feirniadaeth ddeifiol a therfynol ar yr holl broses a ddefnyddiwyd o geisio newid cyfansoddiad Cymru."

"Wedi'r cyfan," meddai, "dyma'r pumed ymgais yn fy oes wleidyddol fer i, hyd yn oed, i gyfansoddiad Cymru gael ei newid.

"Ond bob tro, nid yng Nghymru mae e'n digwydd, mae e'n digwydd yn San Steffan, a dwi'n meddwl ei fod o'n gamarweiniol pan fo'r ysgrifennydd gwladol yn dweud fod y bil yma yn ei ffurf bresennol yn fwy cryno ac yn gliriach a llai o eithriadau - y cwbl maen nhw wedi ei wneud ydy bwndeli'r eithriadau efo'i gilydd."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae'r feirniadaeth yn 'ddeifiol a therfynol' medd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

'Cymru Gryfach'

Dywedodd Llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Mae Llywodraeth y DU wedi'i ymrwymo i greu Cymru gryfach o fewn y Deyrnas Unedig.

"Bydd Bil Cymru yn sicrhau setliad datganoledig cryfach, clir a theg ac wedi'i selio ar gytundeb Dydd Gŵyl Ddewi.

"Byddai cyflwyno awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn ychwanegu costau a chymhlethdod a byddai wedi ei wrthod gan y Llywodraeth a'r wrthblaid yn San Steffan."

Straeon perthnasol