Agor arddangosfa ffotograffig am fywyd ym Mhort Talbot

Port Talbot: Exploring the Unexplored, Debasish Sharma Image copyright Debasish Sharma
Image caption Un o luniau'r arddangosfa gan y ffotograffydd Debasish Sharma

Fe fydd arddangosfa ffotograffig o fywydau pobl Port Talbot yn agor ddydd Iau.

Mae In The Winds' Wakes, sy'n cynnwys gwaith 12 ffotograffydd, yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Siopa Aberafan.

Yn ôl y trefnwyr, bwriad yr arddangosfa yw codi ymwybyddiaeth am effaith "ansicrwydd" dyfodol gwaith dur Tata ar y gymuned.

Bydd ar agor tan 11 Hydref.

Straeon perthnasol