UKIP: Steven Woolfe yn gwella ar ôl ffrwgwd

Steven Woolfe Image copyright PA

Mae'r Aelod Seneddol Ewropeaidd Steven Woolfe yn cael triniaeth mewn ysbyty ar ôl digwyddiad yn adeilad y Senedd Ewropeaidd yn Strasbwrg.

Yn ôl ffynonellau UKIP roedd yna wrthdaro, ac roedd yna ymladd yn dilyn cyfarfod o aelodau UKIP.

Dywedodd Arweinydd UKIP yn y Cynulliad Neil Hamilton wrth y BBC: "Fe wnaeth Steven Woolfe bigo ffeit a fe oedd yr ail orau."

Dywedodd Mr Hamilton ei fod wedi clywed fod yna anghytundeb ffyrnig rhwng rhai o'r Aelodau Seneddol Ewropeaidd.

Yn ôl Mr Hamilton: "Dyw hyn ddim yn hysbyseb gwych i'r blaid. Mae'n anffodus ond mae'n amlwg bod teimladau cryf yno."

Bu Steven Woolfe yn gynghorydd Ceidwadol ym Mae Colwyn yn 2007. Bu hefyd yn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Mr Woolfe yn cael ei ystyried gan lawer fel un o'r ffefrynau i olynu Nigel Farage a Diane James fel arweinydd y blaid.