Rheolwr newydd Casnewydd

Westley Image copyright Rex Features
Image caption Cafodd Stevenage eu dyrchafu i'r adran gyntaf o dan arweinyddiaeth Westley

Mae Casnewydd wedi cyhoeddi mae Graham Westley fydd yn rheoli'r tîm yn dilyn ymadawiad Warren Feeney.

Bydd Westley yn dechrau ar ei waith ddydd Llun nesaf.

Roedd Westley yn rheoli Peterborough tan fis Ebrill eleni, a chyn hynny roedd e'n rheolwr yn Stevenage.

Mae ganddo brofiad fel rheolwr hefyd yn Preston, Rushden & Diamonds, Farnborough Town, Enfield a Kingstonian.

Mae Casnewydd ar waelod yr ail adran ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd: "Roedd y clwb yn unfrydol y dylid penodi Graham oherwydd ei brofiad rheoli sylweddol yn y Gynghrair."