Y melys a'r chwerw

Iwan Arthur Jones a'i blant Image copyright Bethan Jones
Image caption Iwan a'i blant yn garej Plas Moduron, Llanuwchllyn

Mae cyfres newydd Etifeddiaeth ar Radio Cymru yn trafod profiadau personol o wahanol fathau o etifeddu.

I Iwan Arthur Jones, sy'n rhedeg garej Plas Moduron yn Llanuwchllyn ger y Bala, profiad chwerw-felys oedd etifeddu'r busnes teuluol wedi marwolaeth ei dad.

Roedd Iwan yn gweithio fel gohebydd i'r Cambrian News ym Mhorthmadog pan gafodd ei dad ei daro'n wael. Gadawodd ei swydd a dod nôl i helpu i redeg y busnes.

Yn ei dro, roedd ei dad, Huw, wedi etifeddu'r garej gan ei dad yntau, A D Jones, oedd wedi ei sefydlu yn 1967 ac roedd yn rhan annatod o fywyd y pentref.

Ond pan fu farw tad Iwan yn 2014, a'r teulu cyfan yn mynd drwy gyfnod anodd, roedd gan Iwan benderfyniad anodd i'w wneud am ei ddyfodol ei hun a'r busnes. Eglurodd wrth Cymru Fyw sut mae'n teimlo dyletswydd ar un llaw ond yn falch o'r cyfle i ennill bywoliaeth a magu ei deulu yntau ym Mhenllyn ar y llaw arall.


"Cyfrifoldeb"

Mae hanes yn ailadrodd ei hun, ond yn mynd ar gwrs gwahanol.

Dwi'n cofio mam yn deud wrtha' i i gofio dilyn fy nhrwyn a gwneud be dwi isho gynta' . Mi wnes i feddwl lot am y peth ac yn y pen draw, ro'n i'n gwybod mai fama o'n i isho dod.

Dwi hefyd yn cofio fy athro dosbarth, Derec Williams, yn gofyn inni gyd be' oedden ni isho bod yn yr ysgol. Doedd gena i ddim syniad ond mi ddudodd o "jyst dwed mai mecanic wyt ti isho bod".

A dyna pryd wnes i sylweddoli ei bod yn gyfrifoldeb arna' i bron i gymryd yr awenau. Ond dyletswydd dwi'n deimlo erbyn hyn.

Ond mi wnes i ddilyn fy nhrwyn - mi es i i'r coleg ym Mangor, cael gradd mewn Cyfathrebu ac wedyn gwneud cwrs Newyddiaduraeth.

Ond mi ges i'n rhoi mewn picil braidd efo salwch dad ac mi roedd hi'n hollol naturiol mod i yn dod nôl.

Mi wnes i gyfarfod lot o bobl a gwneud lot o ffrindiau yn gweithio ar y papur ond roedd fy milltir sgwâr yn fy nhynnu i nôl.

Dwi'n cofio teimlo fel taswn i'n tyfu i fyny fel person pan es i gladdu taid yn 1994. Ro'n i'n 16 ac roedd pobl yn dod ata' i ac yn ysgwyd llaw i gydymdeimlo. Do'n i ddim yn dallt be roedden nhw'n ei wneud! Cyn hynny, fydde pobl ddim yn cydymdeimlo, ddim wedi siarad am y peth, a dyna pryd y gwnes i deimlo mod i wedi tyfu i fyny a 'mod i'n rhan o ryw waddol o be roedd taid wedi ei wneud.

A'r adeg honno mi wnes i feddwl, ocê, mae hyn i ddisgyn yn ôl arna fo os ydw i angen.

Image copyright Anthony Parkes/ Geograph
Image caption Mae'r garej yn olygfa gyfarwydd i fodurwyr sy'n teithio'n gyson rhwng Bala a Dolgellau

Magu profiad

Ond faswn i ddim yn newid dim byd. Dwi'n falch iawn mod i 'di bod i ffwrdd am ychydig. Mae gan rywun y profiad wedyn mewn gwahanol feysydd, i drin pobl er enghraifft. Rydw i'n cael pobl groes ar y ffôn weithiau ac ro'n i'n cael rheiny'n aml ar y papur!

Dwi di bod yn lwcus tu hwnt i allu byw yn fy ardal. Wnâi ddim gwadu chwaith ei bod hi'n braf bod yn fos ar fy hun hefyd!

Dwi'n gwybod bod 'na gyfrifoldeb arna i achos dwi'n gwybod faint roedd dad wedi ei weithio ac, a'n helpo i, dwi'n mynd i drïo cadw hynny i fynd. Mae o yn fy mhen i yn ddyddiol - dwi'n gofyn iddo fo be i 'neud yn aml. Pan dwi yma ar fy mhen fy hun, dwi yn teimlo fod taid a dad efo fi.

Ond mae angen gwybod pryd i stopio hefyd. Mae'n beth braf gallu cymryd diwrnod i ffwrdd efo fy ngwraig Bethan a'r plant weithiau - rhywbeth nad o'n i'n gallu ei wneud o'r blaen.

Moderneiddio

Mae'r bedair blynedd diwetha wedi bod yn hunllef ac yn agoriad llygad. Ryden ni wedi newid gymaint ar y lle yma o ran gwedd a dwi wedi trïo diweddaru'r hen ffyrdd o wneud pethau - trïo moderneiddio pethau i'r genhedlaeth nesa'.

Ryden ni wedi cael lifft trydanol sy'n codi'r car i fyny yn lle'r hen pit oedd yn arfer llenwi efo dŵr pan oedd lefel Llyn Tegid yn uchel yn y gaeaf! Mae'n golygu y gallwn ni wneud popeth ar ein traed, sy'n gymaint haws na bod ar ein pennau gliniau.

Mae Mel Trow sydd yma efo fi a Glyn Williams sy'n rhedeg garej arall y teulu ym Morth-y-gest wedi bod mor gefnogol dros y bedair blynedd diwetha' hefyd.

Mi fyse 'na lot o ffraeo tase dad di bod efo fi yn gwneud lot o'r newidiadau yma, dwi ddim yn gwybod be fyse fo wedi ei feddwl ohonyn nhw.

Ond dwi ddim yn meddwl fyse fo byth yn mynd nôl i ddefnyddio'r pit eto.

Mae isho cofio am y gorffennol ond mae isho sbïo 'mlaen a gwneud unrhyw beth sy'n gwneud pethe'n haws.

Roedd hi'n galed iawn pan aeth dad yn wael ac yn uffern pan wnaethon ni ei golli ond yn y chwe mis ola' roedd o'n gweld mod i â diddordeb ac mi roedd ar 'i fyny oherwydd hynny.

Edrych tua'r dyfodol

Dwi ddim yn meddwl mor bell â'r genhedlaeth nesaf eto. Faswn i'n licio meddwl y byddai Morgan, Begw, Blodwen neu Caradog yn fodlon cario 'mlaen ond fel dudodd mam wrtha i 'gwnewch fel liciwch chi gynta'.

Mae'n bwysig rhoi eu rhyddid eu hunain iddyn nhw, rhaid iddyn nhw benderfynu eu hunain.

Ryden ni'n lwcus iawn cael byw mewn lle fel Meirionnydd o ran prydferthwch, ffrindiau a iaith. Mae'r gymdeithas mor bwysig yma: mae pawb yn helpu pawb yma ac wedi bod mor gefnogol dros y pum mlynedd diwethaf.

Faswn i'n licio meddwl ein bod ni 'di cael y fagwraeth orau bosib a mae rhywun isho rhoi hynny i'w blant ei hun.

Image copyright Alan Fairweather
Image caption Mae Iwan wedi penderfynu aros yn ei filltir sgwar yn Llanuwchllyn

Mi fydd agweddau eraill o etifeddiaeth dan sylw mewn cyfres o bedair rhaglen ar Radio Cymru ym mis Hydref.

Etifeddiaeth, Radio Cymru, Dydd Llun, 12:30

Hefyd ar y BBC