Trenau: Rhybudd i gefnogwyr Cymru ynglŷn â gwasanaethau

Cardiff Queen Street station Image copyright Google
Image caption Mae galw ar gefnogwyr i gyrraedd yn gynnar

Mae gwasanaethau trenau wedi cael eu canslo yng Nghaerdydd dros y penwythnos, wrth i waith cynnal a chadw gael ei wneud ar y rheilffyrdd.

Fe fydd hyn yn cael effaith ar gefnogwyr pêl-droed wrth i Gymru wynebu Georgia yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 17:00 ddydd Sul.

Fydd yna ddim gwasanaethau rhwng Gorsaf Heol y Frenhines a Gorsaf Canol Caerdydd.

Mae gwasanaeth bws yn gweithredu, ond fydd yna ddim gwasanaethau o Grangetown rhwng 18:00 a 20:30 ddydd Sul, oherwydd pryder ynglŷn â gorlenwi.

Dywed Trenau Arriva Cymru fod y gwaith cynnal a chadw gan Network Rail yn angenrheidiol.

"Rydym yn galw ar gefnogwyr i gymryd y gwasanaethau cynharaf posib i Gaerdydd oherwydd bod disgwyl i wasanaethau fod yn brysur, ac i ddychwelyd i'w gorsafoedd penodol ar ddiwedd y gêm.

"Fe fyddwn yn ceisio sicrhau bod mwy o lefydd ar gael pan yn bosib, ond bydd hyn yn gyfyngedig."