Gweilch 46-24 Gleision

Dan Evans scores Ospreys' sixth try against Cardiff Blues Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dan Evans yn croesi

Fe wnaeth y Gweilch roi perfformiad clinigol wrth chwalu'r Gleision ar Stadiwm y Liberty.

Dechreuodd yr ymwelwyr yn addawol, a nhw oedd ar y blaen 10-3 ar ôl cais Kristian Dacey.

Ond yna tarodd y Gweilch yn ôl gyda 19 pwynt ar ôl i'r cefnwr Dan Fish gael cerdyn melyn am drosedd proffesiynol.

Croesodd yr asgellwr Eli Walker dwywaith, gyda chais yr un i Alun Wyn Jones Dmitri Arhip yn sicrhau pwynt bonws cyn yr egwyl.

Daeth mwy o geisiadau i'r Gweilch yn yr ail hanner gyda Ben John, Dan Evans a Josh Matavesi yn croesi.

Tom James a Ray Lee-Lo sgoriodd i'r Gleision.

Golygai'r canlyniad fod y Gweilch yn symud i'r ail safle yn y Pro12.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Kristina Dacey yn rhoi'r Gleision ar y blaen