Gwrthdrawiad: Heddlu'n apelio am dystion

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion ar ôl i ddau ddyn yn eu harddegau gael eu taro gan gar yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y ddau ddyn, 19 oed, sy'n byw yn lleol eu taro gan Dacia Sandero glas ar yr A4106, wrth y cylchdro gyda'r A48 tua 16:00 ddydd Gwener.
Roedd y car yn teithio o gyfeiriad Porthcawl.
Cafodd un o'r dynion ei gludo gan ambiwlans awyr i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd, lle mae o mewn cyflwr difrifol.
Mae'r ail ddyn wedi cael triniaeth am anafiadau llai difrifol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gyrrwr y Dacia yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymholiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod teuluoedd y ddau ddyn wedi cael gwybod am y gwrthdrawiad.
Ychwanegodd fod yr heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un â welodd y gwrthdrawiad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu'n ddienw ar 0800 555 111, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 1600387042.