Cymru i wynebu Georgia heb Joe Allen

Image copyright Reuters
Image caption Allen yn cael ei longyfarch ar ôl sgorio i Gymru yn Awstria

Mae Chris Coleman wedi cadarnhau na fydd Joe Allen yn holliach i wynebu Georgia nos Sul.

Cafodd Allen anaf i'w goes ar ôl sgorio gôl agoriadol Cymru yn Fienna nos Iau.

Dywedodd Coleman: "Does 'na ddim esgusodion. A oes genyn ni ddigon i gael canlyniad dydd Sul heb Joe Allen? Oes."

Mae Cymru ar frig Grŵp D yn y rowndiau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd ar ôl y gêm gyfartal yn Awstria.

Sgoriodd Allen gôl gofiadwy wrth iddo ergydio i gefn y rhwyd o du allan y cwrt cosbi.

Eisoes mae Coleman wedi gorfod dygymod a chwarae heb Aaron Ramsey, sydd yn dioddef o anaf tebyg i'r un sydd gan Allen.

Image copyright Huw Evans picture agency