Gwrthdrawiad difrifol ar yr A470

caersws
Image caption Y ffordd wedi cau yng Nghaersws

Mae dyn yn ddifrifol wael yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad difrifol rhwng sawl cerbyd ym Mhowys.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470 ger pentref Llanwnog, rhwng Caersws a Llanbrynmair.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, fe darodd pedwar car yn erbyn ei gilydd: Ford Fiesta glas, oedd yn gael ei yrru gan ddyn 19 oed o Lanidloes, fan Volkswagen oedd yn gael ei yrru gan ddyn 53 oed o Henffordd, fan Renault arian oedd yn cael ei yrru gan ddyn 46 oed o Gaerwrangon, a Vokswagen Golf oedd yn cael ei yrru gan ddyn 27 oed o'r Drenewydd.

Cafodd gyrrwr y Ford Fiesta anafiadau difrifol a chafodd ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke-on-Trent.

Mae'n parhau'n ddifrifol wael.

Cafodd y ffordd ei chau am bump awr er mwyn i swyddogion fforensig yr heddlu cynnal ymchwiliad, ond mae hi bellach wedi ailagor.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.