Tranmere 2-0 Wrecsam

Tranmere Wresam Image copyright Arall

Mae Wrecsam wedi colli ei chweched gêm y tymor hwn, y tro hwn, i ffwrdd yn Tranmere.

Wedi hanner cyntaf di-sgôr, fe ddaeth yr ergyd gyntaf i Wrecsam wrth i'r golwr Shawn Jalal rwydo i'w gôl ei hun wedi 64 munud.

Dair munud i mewn i'r amser ychwanegol y daeth yr ail gôl i Tranmere, wrth i Andy Cook ergydio i gefn y rhwyd.

Mae'r canlyniad yn gadael Wrecsam yn bymthegfed yng nghynghrair genedlaethol Lloegr.