Sgarlets 31-27 Dreigiau

Sgarlets Dreigiau Image copyright Huw Evans picture agency

Daeth y Sgarlets yn ôl o fod 13 pwynt ar ei hôl hi i ennill gyda phwynt bonws yn erbyn Dreigiau Gwent nos Sadwrn.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen 20-7 ym Mharc y Scarlets yn yr hanner awr cynta gyda chais gan Hallam Amos a dau gan Adam Warren.

Ond fe newidiwyd y momentwm gyda chais Liam Williams cyn yr hanner, a Jonathan Evans a Steff Evans yn tirio yn yr ail.

Llwyddodd cais gan Sarel Pretorius i sicrhau dau bwynt bonws i'r Dreigiau, ond y Sgarlets aeth a'r fuddugoliaeth, y drydedd yn olynol ar ôl colli tair gem gynta'r tymor.

Mae'r Sgarlets yn symud i'r seithfed safle yn nhabl y Pro12.

Degfed yw'r Dreigiau, gydag un fuddugoliaeth yn unig mewn chwe gêm.