Cannoedd o blant Cymru yn ddigartref yn ddianghenraid

Bachgen digartref Image copyright bodnarchuk
Image caption Yn ôl Shelter Cymru cannoedd o blant Cymru wedi wynebu digartrefedd y llynedd

Cafodd 500 o blant eu gwneud yn ddigartref yng Nghymru y llynedd wrth i landlordiaid cymdeithasol orchymyn i deuluoedd adael dros naw cant o gartrefi.

Dyna gasgliad adroddiad gan elusen Shelter Cymru i nodi diwrnod Digartrefedd y Byd ar 10 Hydref.

Amcangyfrifir fod y gorchmynion wedi costio £24.3m i economi Cymru, gan gynnwys £7.5m i'r landlordiaid eu hunain.

Dywed yr adroddiad y gall dadgartrefu gael effaith andwyol ar denantiaid. Yn aml, meddir, does gan denantiaid ddim cefnogaeth i ddod i lety sefydlog ac felly maen nhw'n ddigartref am amser maith.

Heb le i droi

Yn ôl un tenant, a adnabyddir fel Nerys, chafodd hi fawr o gydymdeimlad wedi iddi hi fethu dalu'r rhent oherwydd problemau gyda'i budd-dâl.

"Er i mi esbonio fy sefyllfa ariannol nifer o weithiau, ni chefais y teimlad eu bod am fy nghadw fel tenant," meddai.

"Ni gynigwyd unrhyw atebion, yn sicr nid rhai y gallwn eu fforddio.

"Doeddwn i ddim yn gallu glynu at yr ad-daliadau. Dywedais y byddwn yn medru talu cyn gynted ag y byddai sefyllfa'r budd-daliadau yn cael ei datrys ond doedden nhw ddim yn derbyn hynny.

"Roeddwn eisoes yn dioddef o salwch meddwl oherwydd fy mhrofiadau blaenorol ac roedd y bygythiad o fy mab a finnau yn byw ar y stryd yn gwneud fy nghyflwr yn waeth.

"Petawn i heb gael y pwysau ychwanegol hwn, efallai na fyddwn wedi mynd mor sâl... roedd y pwysau yn erchyll ac rwy'n gwybod bod fy mab wedi dioddef hefyd."

Mae'r astudiaeth hefyd yn dangos fod dull landlordiaid i atal digartrefedd yn anghyson.

Honnir nad yw landlordiaid, yn aml, yn cyfeirio tenantiaid at wasanaethau a allai eu hatal rhag bod yn ddigartref.

Dywedodd Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd Shelter Cymru: "Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn creu pryder o ran yr anghysonderau rhwng dulliau atal digartrefedd ymhlith landlordiaid cymdeithasol.

"Pan ddaw yn fater mor sylfaenol â cholli cartref dyw dulliau anghyson ddim yn dderbyniol o gwbl.

"Mawr obeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn canu cloch gyda landlordiaid cymdeithasol a'u cred yn ethos cymdeithasol y gwasanaeth maent yn ei ddarparu."

Cymorth llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "diolch" i Shelter Cymru am eu hadroddiad ac y byddan nhw'n ei "astudio'n fanwl".

"Llynedd fe ddaeth deddfwriaeth i rym yn sicrhau bod pob person digartref, neu mewn perygl o fynd yn ddigartref yn cael y cymorth angenrheidiol," meddai'r llefarydd.

"Mae ystadegau'r flwyddyn gyntaf yn galonogol iawn, ac fe lwyddwyd i atal digartrefedd mewn dwy ran o dair, o achosion ble aseswyd fod bygythiad o ddigartrefedd o fewn 56 diwrnod.

"Rydym wedi darparu £5.6m yn ychwanegol er mwyn helpu awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer a gweithredu'r dyletswyddau newydd, ac fe fyddwn ni'n parhau i gefnogi awdurdodau lleol er mwyn gwella ar y dechrau positif yma."