'Gwersi i'w dysgu' am gyfathrebu arian UE

Corina Cretu Image copyright EPA
Image caption Dywedodd Corina Cretu ei bod yn parchu'r penderfyniad i adael yr UE, ond bod angen i'r undeb wneud mwy

Mae angen i'r Undeb Ewropeaidd wneud mwy i ddangos ei fod yn gwario arian i gynorthwyo'r ardaloedd tlotaf, yn ôl y comisiynydd sy'n gyfrifol am ranbarthau'r Undeb Ewropeaidd.

Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Cornia Cretu fod penderfyniad Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd yn un "anffodus", ond ei bod hi'n parchu'r canlyniad.

Mae Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi derbyn bron i £4 biliwn o gyllid strwythurol oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd dros y 14 mlynedd ddiwethaf, ac mae'n debygol y bydd yr ardaloedd yma yn derbyn mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol agos.

Bwriad y cyllid yw creu swyddi a chynyddu cyfoeth er mwyn dod â'r rhanbarthau yn nes at gyfartaledd gweddill yr Undeb.

Eglurodd Ms Cretu: "Roedd sefyllfa ambell i ranbarth yn gwella ar ôl derbyn symiau sylweddol o arian, ac roedden ni yno, yn gefn, sawl tro pan roedd argyfwng, er enghraifft pan gaeodd y pyllau glo."

"Rydyn ni wedi hyfforddi pobl. Rydyn ni wedi agor sawl safle oherwydd cyllid Ewropeaidd.

"Ond wrth gwrs mae beth sydd wedi digwydd yn dangos ein gwendid o ran cyfathrebu'r hyn rydym yn ei wneud gydag arian Ewropeaidd… sut mae'r arian yn cael ei wario… felly mae'n wers i ni."

Gadael yr UE

Yn ystod y refferendwm, roedd rhai oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dadlau mai arian y Deyrnas Unedig oedd yn cael ei wario yn y lle cyntaf, ac y byddai modd i lywodraeth San Steffan gyllido unrhyw golled ariannol yn deillio o adael yr Undeb.

Mae'r Deyrnas Unedig yn talu mwy o arian i'r UE nac mae'n ei dderbyn yn ôl, tra bod Cymru ar ei hennill yn ariannol.

Ym Mrwsel, dywedodd Ms Cretu wrth newyddiadurwyr nad oedd rhai rhanbarthau yn y Deyrnas Unedig yn disgwyl y byddant yn derbyn yr un lefelau o gyllid ar ôl i Brydain adael yr Undeb.

Mae'r Prif Weinidog, Theresa May, wedi awgrymu ei bod hi'n bwriadu dechrau ar y broses o adael yn ffurfiol ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Pwysleisiodd Ms Cretu na fyddai'r Deyrnas Unedig yn gallu aros yn rhan o'r farchnad sengl oni bai ei bod yn cydymffurfio â rhai o'i gofynion, gan gynnwys rhoi'r hawl i drigolion yr Undeb deithio heb rwystr ar draws ei ffiniau.


Ymateb dau gwmni i ganlyniad y refferendwm

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae cwmni sanau Corgi yn hyderus ynglŷn â'r dyfodol

Sanau Corgi

Cafodd cwmni sanau Corgi yn Rhydaman ei sefydlu yn 1892 gyda'r Tywysog Charles ymhlith eu cwsmeriaid.

Yn ôl Emily Kate Jones o'r cwmni, mae'r farchnad ar gyfer eu cynnyrch yn fawr a ma' nhw'n edrych i ehangu.

Mae dros dri mis wedi mynd heibio ers y bleidlais bellach, ac yn ôl Corgi, mae busnes wedi gwella yn sgil canlyniad y refferendwm.

"Oherwydd ma'r bunt yn wan ar y foment, ma fwy o bobol yn gallu prynu yn Ewrop, sy'n dda i ni fel cwmni."

Ma nhw'n ffyddiog bydd pethau'n gwella yn yr hir dymor.

"Ni'n meddwl bydd fwy o ryddid gyda Corgi i neud mwy o 'deals' gyda pobol."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae'r dyfodol yn ansicr meddai cwmni Selwyn's

Selwyn's

Mae cwmni Selwyn's yn Llanmorlais, Abertawe, yn prosesu ac yn gwerthu cocos a gwymon.

Er eu bod nhw wedi gweld cynnydd tebyg mewn galw gan fod y bunt yn wan, mae'r cwmni yn poeni am yr effaith yn yr hir dymor.

Dywedodd Kate Jones o'r cwmni: "Gallwn ni ddim dibynnu ar yr exchange rate i aros yr un peth.

"Yn gyntaf roedden ni wedi gweld cwymp mewn gwerthiant. Roedd 'consumer confidence' fi'n credu i lawr.

"Roedden ni yn siomedig am y canlyniad achos dy'n ni ddim yn gwybod beth sydd nesaf.

"Ma fe'n anodd iawn fel busnes i feddwl sut y'n ni'n mynd i oroesi heb y fath o cymorth y'n ni wedi cael o Ewrop… Ni'n gobeithio fel busnes bydd y llywodraeth yn gallu rhoi cymorth i ni yn yr un ffordd."