Twll du o £700m yn wynebu'r GIG mewn tair blynedd

Ysbyty Image copyright PA

Fe allai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wynebu twll du o £700m yn ei gyllid mewn tair blynedd, yn ôl ymchwil newydd gan arbenigwyr.

Mae'r GIG yn "wynebu'r cyfnod ariannol mwyaf heriol yn ei hanes" meddai'r felin drafod (think tank) Y Sefydliad Iechyd.

Byddai'r diffyg yn gyfystyr â mwy na 10% o'r hyn mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wario ar hyn o bryd mewn blwyddyn.

Mae'r adroddiad hefyd yn rhybuddio y gallai cost gofal cymdeithasol bron a dyblu erbyn 2030/31.

Mae'r dadansoddiad yn awgrymu y gallai'r GIG wario mwy na mae'n ei gael yn ôl o achos pwysau cynyddol sydd wedi ei achosi am fod pobl yn byw yn hŷn.

Hefyd mae mwy o bobl yn byw gyda chyflyrau iechyd hir dymor.

Morâl staff

Mae'r dadansoddiad yn cymryd yn ganiataol y bydd gwariant ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cynyddu dros y pedair blynedd nesaf ar yr un raddfa a'r gwariant yn Lloegr - cynnydd blynyddol o 0.7%.

Ond mae'r ymchwil hefyd yn dweud y gallai'r bwlch ariannol gau os yw cyflogau i weithwyr y GIG yn aros ar godiad o 1% y flwyddyn a phe byddai'r gwasanaeth yn llwyddo i wneud arbedion blynyddol o 1.5%.

Fe fyddai hyn yn golygu bod yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ddod o hyd i fwy o arbedion na'r hyn sydd yn cael ei gyflawni ar draws Prydain ar hyn o bryd ond mae'r awduron yn dadlau nad yw hyn yn "ddigyffelyb".

Maen nhw'n cydnabod y gallai cadw codiadau cyflog ar 1% effeithio ar ysbryd staff ac achosi problemau recriwtio a bod angen gwneud yn siŵr bod y "bobl gywir gyda'r sgiliau cywir" yn cael eu cyflogi er mwyn darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Yn ogystal â phroblemau yn y tymor byr mae'r adroddiad yn rhybuddio:

  • Gallai pwysau ychwanegol olygu y byddai yn rhaid i gyllideb GIG gynyddu o £6.5 biliwn i £10.4 biliwn mewn 15 mlynedd.
  • Pe byddai arbedion o 1% yn digwydd, fe fyddai modd cynyddu'r gwariant trwy gynyddu cyllideb y GIG 2.2% y flwyddyn. Mae yna ddarogan y bydd yr economi ym Mhrydain yn tyfu cymaint â hyn yn y cyfnod yma.
  • Ond os bydd yr economi yn arafu o achos Brexit fe allai hyn wneud hi'n fwy anodd i'r GIG fod ar dir gwastad. Er mwyn lleihau'r effaith ar gyllideb y GIG fe allai olygu trethu uwch a mwy o doriadau mewn gwasanaethau eraill.
  • Dywed yr adroddiad bod arbedion pellach yn "heriol iawn."
  • Mae cynnydd o 60% wedi bod yn nifer y staff o asiantaethau yn 2015/16 i gymharu gyda 2014/15 ac os fydd y tuedd yma yn parhau fe allai hyn leihau unrhyw arbedion posib.

Yn gyffredinol mae'r awduron yn dweud bod hi yn "realistig" i gael cyllideb gynaliadwy yn y gwasanaeth iechyd ond y bydd yn waith caled.

Image caption Mae'n dweud bod y casgliadau yn yr adroddiad yn yr hir dymor yn "galanogol"

Yn ôl Vanessa Young, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG yng Nghymru, mae'r darogan ar gyfer y tymor hir yn golygu ei bod yn teimlo yn "betrusgar optimistaidd".

Dywedodd: "Mae'n galonogol i weld y dylen ni fod yn gallu fforddio gwasanaeth iechyd o nawdd cyhoeddus yn y tymor hir tan 2031."

Er hynny mae'n dweud bod casgliadau'r adroddiad ar gyfer 2019/20 yn fwy o bryder am fod yr awduron yn sôn am ddiffyg o £700m.

Ychwanegodd: "Mae datrys hyn mewn cyfnod pan mae yna ofynion anodd yn barod yn mynd i fod yn her go iawn."

Rhybudd y llywodraeth

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething bod £809m yn ychwanegol wedi cael ei roi yn y GIG dros y tair blynedd diwethaf - cynnydd o 14% - yn ystod cyfnod ble roedd cyllidebau ar y cyfan yn cwympo.

Ond yn yr hir dymor, meddai, fe fydd ei dyfodol yn dibynnu ar beth oedd Llywodraeth San Steffan yn ei wneud.

"Os ydyn nhw'n parhau i dorri gwariant cyhoeddus yn y ffordd maen nhw wedi amlinellu fe allai beryglu ein gallu ni i gael gwasanaeth sydd wir yn fforddiadwy," meddai.

"Os ydyn nhw'n ei ariannu yn unol â thwf disgwyliedig mewn GDP yna fe fydd y gwasanaeth iechyd yn fforddiadwy - mae hynny oherwydd ymrwymiadau rydyn ni'n eu gwneud ac oherwydd bod y gwasanaeth iechyd wedi gwneud arbedion effeithlonrwydd go iawn yn y ffordd mae hi'n rhedeg, ac yn enwedig yn y ffordd y mae hi'n trin cyflyrau cronig."