Caerdydd yn arwyddo ymosodwr ac amddiffynwr

Sol Bamba Image copyright Getty Images

Mae cyn amddiffynnwr Leeds United, Sol Bamba a chyn ymosodwr Arsenal, Marouane Chamakh, wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Caerdydd.

Fe wnaeth Bamba, 31 oed, adael Leeds am resymau personol fis diwethaf.

Bamba oedd ail chwaraewr i arwyddo i glwb y briff ddinas ers i Neil Warnock gymryd yr awenau, wedi i gyn asgellwr QPR, Junior Hoilett ymuno â'r clwb ddydd Llun.

Bydd Warnock yn gobeithio y bydd Bamba, sy'n chwaraewr rhyngwladol gyda Thraeth Ifori, yn gallu helpu problemau amddiffynnol yr Adar Gleision, sydd yn yr 23ain safle yn y Bencampwriaeth.

Image copyright Getty Images

Fe gadarnhaodd y clwb brynhawn Mawrth, eu bod wedi arwyddo cyn ymosodwr Arsenal a Crystal Palace, Marouane Chamakh.

Cafodd Chamakh ei ryddhau gan yr Eryrod ddiwedd y tymor diwethaf.

Fe fydd y clwb yn herio Bristol City nos Gwener.