Cynllun gwrth-dlodi Cymunedau'n Gyntaf i ddod i ben

Port Talbot Image copyright Getty Images

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant wedi dweud wrth aelodau'r Cynulliad ei fod â'i "fryd ar gael gwared" ar gynllun gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru, Cymunedau'n Gyntaf.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Sargeant nad oedd yn meddwl mai'r cynllun - sy'n canolbwyntio ar ariannu ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru - yw'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â thlodi.

Wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb am 2017-18 yr wythnos nesaf, mae dyfalu wedi bod am ddyfodol y cynllun, a'r posibilrwydd y byddai'n dod i ben er mwyn ariannu cynlluniau newydd.

Mae'r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd wedi addo cynyddu'r cyfanswm o ofal plant am ddim i blant tair a phedair oed i 30 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn.

'Cam wrth gam'

Dywedodd Mr Sargeant: "Tra bod Cymunedau'n Gyntaf wedi cefnogi pobl yn rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig dros y 15 mlynedd diwethaf, nid ydwyf wedi fy narbwyllo mai parhau i ganolbwyntio ar 52 o ardaloedd bychan yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni dros Gymru.

"Mae fy mryd ar gael gwared ar Cymunedau'n Gyntaf gam wrth gam wrth sefydlu ymdriniaeth newydd i gyfarfod sialensiau'r dyfodol.

"Bydd yr agwedd newydd yn canolbwyntio ar dair ardal hanfodol o addysg, blynyddoedd cynnar, a galluogrwydd."

Image caption Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant

Gydag ychydig o gyfleoedd ar gyfer gwariant ychwanegol, mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi awgrymu y bydd yn rhaid cael gwared ar rai cynlluniau i dalu am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

"Bydd pynciau a rhaglenni'n cael eu torri," meddai Mr Jones nos Lun.

Mae Llywodraeth Cymru am ganolbwyntio ar addewidion am ofal plant, gan addo ariannu 100,000 o brentisiaethau a chronfa £100m i wella safonau ysgolion.

Mae Cymunedau'n Gyntaf yn gwario tua £30m bob blwyddyn, gyda dros £300m wedi ei wario ers pan gafodd ei sefydlu yn 2001.

Y llynedd fe ddaeth yn amlwg fod un cynllun ym Merthyr Tudful wedi gwario'r mwyafrif o'i gyllideb o £1.5m ar gyflogau.

Ymateb

Wrth ymateb i sylwadau Carl Sargeant, dywedodd Mark Isherwood AC ar ran y Ceidwadwyr Cymreig:

"Mae'n foddhaol i weld Llywodraeth Cymru'n cynnig ail-feddwl am gynllun Cymunedau'n Gyntaf - diwygiad y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw amdano ers amser maith.

"Gydag un ymhob pedwar o bobl yng Nghymru yn parhau i fyw mewn tlodi, mae'n glir nad yw'r cynllun yn ateb yr anghenion, wedi methu â chyrraedd y nod, ac mae wedi bod yn darged pryder i lawer o ACau Llafur.

"Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am wyrdroi methiannau'r gorffennol yna fe ddylai ddwys ystyried cyflwyno cynlluniau adfywio sydd wedi eu harwain yn lleol, fyddai'n cael gwared ar fiwrocratiaeth tra'n cynnig cefnogaeth effeithiol sydd wedi ei dargedu, tra'n arbed degau o filiynau."

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Bethan Jenkins, Ysgrifennydd yr Wrthblaid ar Gymunedau: "Mae'n wir dweud bod gwaith y llywodraeth o ddelifro Cymunedau'n Gyntaf yn fratiog ar y gorau. Dylai cynnig gwasanaethau gael eu harolygu'n barhaus i sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn y maen nhw yno i'w wneud - i gefnogi a gwella bywydau pobl yng Nghymru.

"Mae'r etifeddiaeth o dlodi gafodd ei greu'n bennaf gan ddi-ddiwydiannu'r wlad hon wedi creu problemau sylweddol sy'n parhau gyda ni dros hanner canrif ers i'r broses ddechrau. Rwy'n pryderu ein bod yn trin symptomau tlodi ac nid yr hyn sy'n ei achosi.

"Nid yw hyn yn golygu nad yw Cymunedau'n Gyntaf wedi gwneud gwaith da - mae hyn yn eglur. Ond os mai'r nod yma yw cael gwared ar dlodi, yna mae angen i'r llywodraeth gynnig syniadau newydd. Bydd Plaid Cymru'n cadw llygad gofalus ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud nesaf."