Cofio Sioned

Ddydd Sadwrn, 15 Hydref, bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yng nghapel y Tabernacl, Caerdydd i ddathlu bywyd a chyfraniad Sioned James i fywyd corawl Cymru. Bu farw ym mis Gorffennaf eleni.

Roedd y gyflwynwraig Heledd Cynwal yn ffrind agos i Sioned James ers eu bod nhw'n blant, a bu'n siarad â Cymru Fyw am eu perthynas dros y blynyddoedd a'r profiad o golli ei ffrind gorau yn 41 oed:


Image copyright Heledd Cynwal
Image caption Heledd Cynwal a Sioned James

'Fel chwaer'

"Fe gwrddon ni am y tro cynta' yng ngwersyll yr Urdd Glan-llyn pan o'n ni'n 11 oed a fi'n cofio meddwl yn syth ei bod hi'n sbarcen! Roedd hi'n ddrygionus ac fe sylweddolais ei bod hi fy math i o ffrind!

"Er ei bod hi'n byw ym Mhont Tweli tu fas i Landysul a finne'n byw tu fas i Landeilo pan o'n ni'n blant, o'n ni'n cwrdd yn aml dros y blynydde. Fe fuon ni'n ffrindie penna' ers hynny, am 30 mlynedd.

"Mae lot yn cysylltu Sioned â chanu clasurol, achos mi oedd e'n allweddol yn ei bywyd hi, ond yn ei harddegau oedd hi'n mynd i gigs. Bydde hi'n dod ar y bws o Ysgol Dyffryn Teifi a fi ar y bws o Ysgol Bro Myrddin.

"Roedd y cyfnod yna'n ffantastig o ran y sîn roc Gymraeg, gyda bysus yn cael eu trefnu o bob man i lefydd fel Roc Ystwyth, gigs yn Llambed, Y Cnapan, ac ym mhob Steddfod Genedlaethol bydden ni'n aros am wythnos yn y maes pebyll.

"Fe fuon ni a chriw o ffrindiau'n byw gyda'n gilydd yn Harriet Street yng Nghaerdydd hefyd ar ôl graddio. Wel, tase'r waliau'n gallu siarad… odd 'na ddigon o sbort!

"Sioned gyflwynodd fi i'r band Jess pan o'n i tua 14 oed a doedd dim edrych yn ôl i fi wedyn o ran cerddoriaeth Gymraeg. Tyfodd Sioned lan yn y cyfnod yma, gyda'r gigs a chanu pop yn mynd ochr yn ochr â'r canu corawl, roedd hi'n aelod o Gôr Ieuenctid Cymru yn yr un cyfnod ac yn arwain corau pan oedd hi'n yr ysgol.

Image caption Sioned James

"Roedd Sioned yn berson doniol iawn, yn ddifyr a llawn egni ac oedden ni'n dwy ar yr un wavelength. Roedd wastad hiwmor. Os bydde galwad ffôn yn dechre'n drist, bydde wastad digon o chwerthin erbyn y diwedd.

"O'dd hi'n ddi-flewyn-ar-dafod ac weithie bydde hynny'n ei glanio hi mewn dŵr poeth! Ond ar yr un pryd roedd hi'n berson dwfn, emosiynol a phreifat. Mi oedd 'na ochr eitha' dwys iddi hefyd.

"Hyd y diwedd, sai'n credu ei bod hi'n ystyried pa mor dda oedd hi. Roedd hi'n berson allanol hyderus, ond o'dd hi ddim yn llawn ystyried maint ei thalent hi, o'dd hi byth yn meddwl bod pethe cweit yn ddigon da. O'dd pobl eraill yn ei gweld hi'n wahanol i sut yr oedd hi'n gweld ei hunan.

"Ro'n ni yn forynion priodas i'n gilydd ac roedd Sioned yn fam bedydd balch i fy mab Gwern.

"Roedd hi'n driw iawn ac yn ffrind i'r carn. Roedd hi fel chwaer i fi."

Oedfa i ddathlu

Image copyright Huw Foulkes

Mae Huw Foulkes, arweinydd Côrdydd ac a oedd yn ffrind agos i Sioned James, yn edrych ymlaen i roi'r deyrnged haeddiannol iddi yn yr oedfa ddydd Sadwrn.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu ei bywyd a diolch iddi am "drawsnewid canu corawl yng Nghymru," meddai.

"Roedd angladd Sioned yn un breifat, felly roedd y côr a'r teulu'n awyddus i drefnu digwyddiad yng Nghaerdydd. Mi fydd y côr yn perfformio darnau y maen nhw wedi eu canu ers sefydlu Côrdydd, mae'n rhyw fath o daith dros 15 mlynedd trwy'r cyfnodau.

"Bydd Gwawr Edwards a Trystan Llŷr Griffiths yn perfformio, gan bod Sioned wedi eu helpu nhw'n eu gyrfa ac felly maen nhw'n gweld hwn yn gyfle i ddiolch iddi am ei chefnogaeth.

"Rydan ni wedi gwahodd Islwyn Evans (arweinydd Ysgol Gerdd Ceredigion) a John Hugh Thomas o Brifysgol Caerdydd i arwain rhai caneuon. Roedd y ddau yn ddylanwad mawr ar fywyd Sioned dros y blynyddoedd, ac mi fydd 'na deyrngedau gan Alwyn Humphreys a Keith Davies hefyd.

Image caption Huw Foulkes yn arwain Côrdydd, a enillodd deitl Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni ym mis Awst eleni

"Mi fydd yn brofiad anodd i'r côr, ond mae pwyslais ar ddathlu ei bywyd hi a diolch iddi am ei chyfraniad mawr. Fe wnaeth hi drawsnewid canu corawl yng Nghymru a bydd yr oedfa yma'n gyfle i ddathlu hynny.

"Mae Côrdydd yn paratoi at gyngerdd mawr efo Eric Whitacre yn Neuadd Dewi Sant ym mis Mehefin a'r bwriad ydy cystadlu yng nghystadleuaeth Côr Cymru y flwyddyn nesa'. Wrth i'r côr symud ymlaen, mae'n ddyletswydd arnon ni i ddatblygu ar y sylfaen gadarn y mae Sioned wedi ei gadael."


Bydd cyfle arall i glywed Sioned James yn cael ei holi gan Beti George yn Beti a'i Phobl, BBC Radio Cymru, Dydd Sul 16 Hydref, 12:00