Cymru dan-21 yn trechu Armenia yn ymgyrch Euro 2017

Ellis Harrison Image copyright Rex Features

Roedd gôl gynnar gan Ellis Harrison yn ddigon i roi tîm dan-21 Cymru ar ben ffordd yn eu buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Armenia.

Rhwydodd ymosodwr Bristol Rovers wedi 19 munud yn Yerevan, a hynny yn eu gornest olaf yn ymgyrch ragbrofol Euro 2017.

Dyblwyd y fantais hanner ffordd drwy'r ail hanner wedi i Aram Shakhnazaryan roi'r bêl i'w rwyd ei hun.

Rhwydodd Artem Simonyan funudau'n ddiweddarach i ddod ag Armenia yn ôl i'r gêm, ond fe seliwyd y fuddugoliaeth yn y funud olaf gan Tom O'Sullivan.

Roedd y tîm a ddewisodd y rheolwr Geraint Williams yn cynnwys tri o chwaraewyr sydd wedi chwarae dros dîm cyntaf Cymru - Declan John, Harry Wilson a George Williams.

Ond yn dilyn canlyniadau yn gynharach yn yr ymgyrch doedd y tîm eisoes methu cyrraedd Pencampwriaethau dan-21 Ewrop 2017, fydd yn cael eu cynnal yng Ngwlad Pwyl.

Y disgwyl yw mai hon fydd ymgyrch olaf nifer o'r chwaraewyr gyda'r tîm dan-21, gyda sawl un nawr yn gobeithio camu i'r tîm cyntaf dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.