Meddygon: 'Chwarter yn ystyried gadael' yn ôl adroddiad

Meddygfa Image copyright Thinkstock

Mae dros chwarter y meddygon gafodd eu holi yng Nghymru yn ystyried gadael eu swydd, yn ôl adroddiad gan grŵp o ddoctoriaid.

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi cwestiynu meddygon dros eu llwyth gwaith, eu cydbwysedd bywyd a gwaith a'u cynlluniau i aros neu adael eu swydd.

Dywed bod meddygon wedi codi pryderon ynglŷn â chynaliadwyedd y gweithle, gyda dros 80% yn poeni.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn lansio carfan recriwtio.

Fis diwethaf, dywedodd y BMA bod yr argyfwng sy'n wynebu meddygon mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn gwaethygu, wrth i ffigurau awgrymu bod cynnydd yn nifer y meddygfeydd sy'n cael eu rheoli gan fyrddau iechyd.

Mae'r BMA yn lansio ymgyrch wrth i'r adroddiad gael ei gyhoeddi.

'Canlyniadau cynrychiolaidd'

Fe anfonwyd yr arolwg i holl feddygon y BMA yng Nghymru, gydag 20% o'r rheiny (244 o feddygon) yn ymateb gydag ateb gweddol gyfartal ar draws y wlad.

Dywedodd 27% (65 meddyg) eu bod nhw'n ystyried newid gyrfa ac mae bron i 14% (13 meddyg) yn bwriadu gweithio dramor o fewn y 12 mis nesaf.

Dywedodd y BMA ei bod yn "hyderus" bod y lefel o ymateb yn dangos "canlyniadau cynrychiolaidd".

Prinder staff yw un o'r prif bryderon, gyda rhai meddygon yn ystyried lleihau eu horiau gweithio i ymdopi â'r cynnydd yn eu pwysau gwaith.

Mae dros 60% o'r rhai wnaeth ymateb yn cyfaddef eu bod nhw'n brwydro gyda chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gyda 58% yn dweud bod eu cydbwysedd wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd tri chwarter o'r rhai wnaeth ymateb bod y staff iechyd o fewn eu meddygfeydd wedi cael eu heffeithio'n negyddol gan y llwyth gwaith, a byddai bron hanner ohonynt ddim yn cynghori gyrfa feddygol.

'Bwlch sylweddol'

Meddai Dr Charlotte Lewis, cadeirydd Pwyllgor Meddygon BMA Cymru (GPC): "Mae 'na fwlch sylweddol rhwng y galw ar y meddygfeydd a'u capasiti.

"Mae'r swydd yn gorfod ymdopi gyda ffynonellau annigonol, llwyth gwaith anghynaladwy, a gweithlu sydd o dan straen parhaol, ar draws y wlad.

"Mae tueddiadau clir o ran pryderon meddygon wedi ymddangos yn yr arolwg, sy'n pwysleisio pa mor sydyn mae pethau'n gorfod newid. Mae meddygon yn parhau i ymrwymo i'r swydd, ond er mwyn gweld gwelliant, bydd angen offer, ffynonellau a chefnogaeth Llywodraeth Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn lansio carfan recriwtio cenedlaethol a rhyngwladol erbyn diwedd mis Hydref i farchnata Cymru a GIG Cymru fel lle deniadol i ddoctoriaid, yn ogystal â meddygon a'u teuluoedd i ymarfer, gweithio a byw."

"Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol a byddwn yn cael trafodaethau gyda GPC Cymru ynglŷn â'r newidiadau i'r Cytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredin yn fuan."

Yn ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Angela Burns: "Mae staffio gofal sylfaenol wedi bod yn boendod i Lywodraeth Cymru ers peth amser, ac maen nhw wedi methu mynd i'r afael â heriau hyfforddiant, recriwtio a chadw staff yma.

"Yn hanfodol, mae'r tâl y mae nifer o feddygon yng Nghymru yn ei gymryd adref wedi gostwng 25% dros y 10 mlynedd diwethaf.

"Heb gynnig y tâl cywir a datblygiad proffesiynol parhaol i feddygon rheng flaen yng Nghymru, byddwn yn parhau i weld meddygon yn gadael."

'Ffyrdd newydd'

Fe gafodd yr adroddiad ei ryddhau yr un dydd a gynhaliwyd cynhadledd ar ofal gwledig.

Cafodd ei gynnal gan Gymdeithas Feddygol Sir Drefaldwyn yn Neuadd Gregynol, ger Y Drenewydd, Powys, i drafod yr argyfwng mewn gwasanaethau meddygon ar draws ardaloedd gwledig Cymru a'r DU.

Dywedodd Dr Michael Lewis, meddyg yn Y Trallwng: "Dyw carfanau recriwtio braidd wedi cael unrhyw lwyddiant, felly mae Bwrdd Iechyd Dysgu Powys a meddygfeydd lleol yn chwilio am ffyrdd newydd o gynnig gofal sylfaenol.

"Mae hyn yn aml yn dibynnu ar weithwyr gofal iechyd eraill neu dechnoleg newydd, ac wedi bod yn hanfodol o ran cadw meddygfeydd ar agor."