Her yr iaith

Meri Huws Image copyright Comisiynydd y Gymraeg

Pum mlynedd yn ôl i'r mis hwn cafodd Meri Huws ei phenodi i rôl newydd sbon - Comisiynydd y Gymraeg. Ond faint o ddylanwad mae hi wedi cael yn ei chyfnod wrth y llyw?

Fe ofynodd Cymru Fyw am farn gan ddau gorff blaenllaw sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg - Dyfodol yr Iaith a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ruth Richards ydy prif weithredwr mudiad Dyfodol i'r Iaith. Dywedodd fod yna berygl i'r Comisiynydd fod yn rhoi gormod o bwyslais ar gwyno yn hytrach na gweithredu, gan mai nid pawb sy'n teimlo eu bod yn gallu cwyno mor hawdd.

"Bu cryn bwyslais dros y pum mlynedd diwethaf ar hawl unigolion i wneud cwyn os nad yw corff yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf," meddai. "Rhaid derbyn nad pawb sydd â'r hyder i wneud cwyn o'r fath, ac nad yw'r broses gymhleth bresennol yn debygol o annog siaradwyr Cymraeg i fynnu ar eu hawliau.

"Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd angen symleiddio'r broses gwyno, gan ganiatáu i'r Comisiynydd ddelio ag unrhyw gwyn yn brydlon, uniongyrchol ac effeithiol, a drwy hynny, ysgafnhau'r baich sydd ar hyn o bryd yn pwyso'n rhy drwm ar yr unigolyn."

Image caption Mae gan unigolyn hawl i anfon cwyn at y Comisiynydd os nad yw corff yn cydymffurfio â gofynion Deddf yr Iaith

Ychwanegodd: "Fe allwch chi ddweud mai prif nodweddion gwaith Comisiynydd y Gymraeg yn y pum mlynedd gyntaf fu sefydlu biwrocratiaeth a phlismona, a bu'n broses hir a llafurus.

"'Dyn ni'n gobeithio bydd y cyfnod nesaf yn dod â chyfle i weithio'n fwy creadigol a rhagweithiol, gan symud y pwyslais yn bendant ar hyrwyddo defnydd diofyn naturiol o'r iaith ym mhob agwedd o'n bywyd dydd-i-ddydd.

"Y flaenoriaeth i'r rhan fwyaf o siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg yw'r cyfle i'w defnyddio ar lafar ac yn gymdeithasol. Dyma, yn y pen draw wnaiff ei chadw'n gyfrwng byw a bywiog."

Dywedodd Ruth Richards y byddai Dyfodol i'r Iaith yn galw ar mwy o adnoddau i gael eu clustnodi i "hyrwyddo a chynorthwyo gwasanaethau wyneb-yn-wyneb cyfrwng Cymraeg... nid yn unig yn y sector gyhoeddus, ond mewn siopau, caffis, tafarndai a mannau adloniant a chymdeithasu".


Llinell amser Comisiynydd y Gymraeg

Hydref 2011: Meri Huws, cyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn cael ei phenodi fel Comisiynydd y Gymraeg.

Mawrth 2012: Diwrnod cyntaf Meri Huws yn y swydd. Y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, Leighton Andrews, yn dweud ei bod hi'n "ddiwrnod arwyddocaol iawn i ddyfodol y Gymraeg".

Mawrth 2013: Meri Huws yn gwadu bod Leighton Andrews wedi tanseilio ei swydd ar ôl iddo wrthod argymhellion y Comisiynydd ar Safonau Iaith.

Mawrth 2014: Dyfarnodd yr Uchel Lys yng Nghaerdydd bod penderfyniad Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) i ddod â'u cynllun iaith i ben yn 2013 yn anghyfreithlon. Hwn oedd yr adolygiad barnwrol cyntaf i'w gynnal ar gais Comisiynydd y Gymraeg.

Rhagfyr 2014: Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymrwymiad i wella'r ffordd y mae'r GIG yn diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg, a sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar gael i gleifion. Daeth y penderfyniad fel ymateb i adroddiad Comisiynydd y Gymraeg, Fy Iaith Fy Iechyd.

Ebrill 2015: Argymhellion ymchwil gan academydd blaenllaw yn dweud y dylai bwrdd neu gorff o bobl fod yn cymryd y rôl o reoleiddio a chraffu ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i'r cyhoedd yn y Gymraeg, yn hytrach na'r sefyllfa bresennol ble mae unigolyn yn gwneud y swydd. Cymdeithas yr Iaith yn anghytuno.

Mawrth 2016: Safonau Iaith cynta'r Gymraeg yn dod i rym. Mae'r "garreg filltir" yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar gynghorau sir, Llywodraeth Cymru a'r parciau cenedlaethol i ddarparu gwasanaethau yn yr iaith.

Mai 2016: Awdurdodau lleol yng Nghymru yn cyflwyno cyfanswm o 273 o heriau i'r Safonau Iaith sydd wedi cael eu gosod gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Awst 2016: Y Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad pum mlynedd cyntaf ar sefyllfa'r Gymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwaith ymchwil ei swyddfa yn profi bod addysg yn allweddol i greu siaradwyr Cymraeg.


Dywedodd Heledd Gwyndaf, cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith mai ei gobaith nhw fel mudiad oedd gweld Ms Huws yn "sicrhau parch i'r Gymraeg ymhob sector a hawliau i siaradwyr Cymraeg ym mhob maes o fywyd".

"Mae yna lwyddiannau wedi bod, mae yna fethiannau wedi bod," meddai Heledd Gwyndaf. "Ond yn sicr mae yma seiliau wedi eu gosod i adeiladu arnyn nhw.

"Mae prif waith y Comisiynydd wedi bod ynghlwm â 'Safonau'r Gymraeg', sy'n gosod dyletswyddau ar gorff neu gwmni i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi derbyn eu Safonau a rhai wedi eu herio.

"Yn gadarnhaol, mae rhai o'r safonau yn uchelgeisiol ac yn gosod disgwyliadau ar y cyrff i ddatblygu eu gwasanaethau i sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg i fyw a gweithio yn Gymraeg. Mae'r hawl i bobl gael gwersi nofio yn Gymraeg, er enghraifft, yn dechrau cael effaith ar lawr gwlad.

"Er hyn, mae'r Comisiynydd wedi dangos gwendid wrth ymdrin â rhai cyrff, er enghraifft Sir Gaerfyrddin, ble nad yw'r safon wedi ei osod i sicrhau fod gan berson hawl i gael cyfarfod yn ymwneud â'u llesiant eu hunain yn Gymraeg, heb gyfieithydd. Mae hyn yn codi'r pwynt bod gan gyrff mwy o hawl i apelio a chael eu clywed nag sydd gan siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau yn eu hiaith.

Image copyright Nigel Davies/Geograph
Image caption Oes 'na wendidau yn y modd y mae'r Comisiynydd wedi delio gyda rhai awdurdodau lleol fel Cyngor Sir Caerfyrddin?

"Yn gadarnhaol mae'r Comisiynydd wedi dechrau'r broses o osod Safonau ar gwmnïau dwr, ynni a nwy. Ond siom nad oes cychwyn wedi bod ar osod Safonau ar gwmnïau telegyfathrebu fel cwmnïau ffôn.

"Mae Mesur y Gymraeg, gafodd ei basio yn 2010 yn caniatáu i swyddfa'r Comisiynydd wneud hyn, ond dyw e heb ddigwydd. Siom yw hi mai, pum mlynedd yn ddiweddarach, dim ond un set o Safonau sy'n weithredol, sef y rhai sy'n creu hawliau wrth ddelio gyda chynghorau ac ambell i gorff arall.

"Er hyn, mae rhaid cydnabod bod yna gyfyngiadau ar y Comisiynydd sydd angen eu cywiro. Mae yna gryfderau ond hefyd wendidau yn Mesur y Gymraeg 2010. O gryfhau'r Mesur hwnnw byddai modd sicrhau llwyddiant y Safonau.

"Mae Swyddfa'r Comisiynydd wedi wynebu heriau eraill hefyd sydd yn dod o du Llywodraeth Lafur y Cynulliad. Mae hyn yn cynnwys toriadau sylweddol ers tair blynedd. Mae angen diogelu cyllideb y Comisiynydd er mwyn sicrhau bod modd hyrwyddo ac esbonio hawliau pobl yn ddigonol.

"Er ei holl wendidau mae'r Comisiynydd wedi gwella ac yn dal i wella fel eiriolwr dros y Gymraeg, ac mae'n swydd bwysig sy'n golygu bod siaradwyr Cymraeg mewn sefyllfa gryfach o ran hawliau nag y byddem ni hebddi. Mae yna le i fod yn fwy llafar, yn gadarnach ac i weithio'n gyflymach."